Gwerth Cymdeithasol

Gwneud gwahaniaeth yn ein Cymunedau 

Mae mwy i ni na adeiladu a thrwsio tai. Ein nod yw:

  • Creu cyfleoedd
  • Cefnogi pobl
  • Cryfhau ein cymunedau 

Rydym eisiau sicrhau y bydd ein cymunedau yn elwa o’r arian rydym yn ei wario. 

 

Darllen ein hadroddiad Gwerth Cymdeithasol

 

Beth yw Gwerth Cymdeithasol 

Rydym bellach bum mlynedd i mewn i’n taith gwerth cymdeithasol. 

Gwerth Cymdeithasol ydy’r effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol ’da ni’n gael ar gymdeithas.  

Rydym eisiau sicrhau fod yr arian rydym yn ei fuddsoddi yn creu gwerth ychwanegol i’n:  

  • Tenantiaid 
  • I’n cymunedau 
  • llefydd rydym yn gweithio ynddynt.  

Rydym yn darparu cartrefi a gwasanaethau ar draws gogledd Cymru. 

Rydym eisiau sicrhau fod y cytundebau gwaith rydym yn eu rhoi i gontractwyr yn cefnogi pobl a llefydd lleol mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon 

Mae hyn yn golygu edrych y tu hwnt i’n gwasanaethaucynnyrch neu waith craidd a chysidro pa fuddion ychwanegol eraill fyddai’n gallu cael eu cynnig. 

Ein heffaith cymdeithasol 

Cyfanswm y gwerth cymdeithasol yn 2025/26 = 22.9 miliwn 

Heddiw, mae gwerth cymdeithasol wedi’i ymgorffori ar draws y busnes ac mae’n llywio popeth a wnawn. Ein nod yw parhau â’r daith yma a gwella’r ffordd rydym yn dal y budd ychwanegol  mae ein gweithgareddau yn ei greu i’n cwsmeriaid a’n partneriaid. 

 

Ein Adroddiad Gwerth Cymdeithasol 

Rydym yn cyhoeddi Adroddiad Gwerth Cymdeithasol yn flynyddol. 

Clawr adroddiad gwerth cymdeithasol, hefo plant yn cymryd rhan mewn pigo sbwriel.

The cover of the social value report - ladies knitting in the knitting club

Academi Adra

Academi Adra ydy ein menter cyflogaeth a sgiliausy’n cefnogi pobl leol i ennill sgiliau newydd a dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu a thu hwnt. 

Ein nod yw pontio’r bwlch rhwng contractwyr lleol a unigolion sy’n barod i symud mewn i’r sector adeiladwaithGobeithiwn y bydd hyn yn helpu busnesau fel eich un chi i dyfutra hefyd yn grymuso unigolion i adeiladu gyrfaoedd hirdymor yn y diwydiant adeiladu. 

Mae pob cyfle yn cyfri. Pryn ai ydy hynny yn wythnos o brofiad gwaith neu yn leoliad gwaith 16 wythnos.  Mae eich amser ac arweiniaid i bobl leol yn rhoi proifiad a hyder iddynt i lwyddo 

Darllenwch fwy am sut all eich cwmni chi gefnogi pobl leol