Photo of Llanberis from the sky with the mountains in the background, with the word 'Perthyn'

Adra yn cyrraedd rhestr fer gwobrau Sefydliad Siartredig Datblygiad Personol

Mae Adra ar y rhestr fer yng nghategori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Gorau gwobrau Sefydliad Siartredig Datblygiad Personol (CIPD).

Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ddydd Mawrth, gyda’r gwobrau eu hunain yn cael eu cynnal ar 15fed o Fawrth.

Mae’r cyflwyniad wedi canolbwyntio ar y gwaith rydym wedi’i wneud fel rhan o Brosiect Perthyn. Mae hynny’n cynnwys y digwyddiadau a drefnwyd fel rhan o’r rhaglen iechyd a lles, gwaith o amgylch y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, prosiectau mewn cymunedau lleol a’r digwyddiadau cyhoeddus amrywiol rydym wedi bod yn rhan ohonynt dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Delyth Williams, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Cyfundrefnol:  “Mae hwn wirioneddol yn ymdrech tîm a hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich ymrwymiad. Rydym wedi rhoi ffocws mawr ar ddatblygu ein hymagwedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn falch o’n cyflawniadau hyd yma.

“Rydym am i’n sefydliad adlewyrchu’r amrywiaeth o fewn ein cymunedau. Rydym am i’n gwaith o ddydd i ddydd adlewyrchu ein gwerthoedd fel sefydliad (o fod yn agored a theg) a gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo’n rhan o gymuned Adra. Rydym hefyd am ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant yn ein cymunedau ac mae’r cyflwyniad hwn yn adlewyrchu rhai o’r prosiectau allweddol yr ydym wedi’u cyflawni ynghylch EDI.

“Rydym hefyd yn cynnal gwiriadau iechyd blynyddol gyda chydweithwyr, a gynhelir bob yn ail flwyddyn, i gael darlun cywir o’ch dealltwriaeth o faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Roedd gan yr arolwg diwethaf a gynhaliwyd gennym ar ddiwedd 2023 gyfradd ymateb o 52% a disgwylir y canlyniadau’n fuan. Fe wnaethom hefyd gynnal arolwg ymhlith tenantiaid”.