Four images of different types of damp

Adra yn lansio ymgynghoriad lleithder a llwydni

Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru yn lansio ymgynghoriad lleithder, llwydni a chyddwysedd, gyda’r nod o gyflwyno polisïau a gweithdrefnau newydd i ymdrin â lleithder a llwydni mewn cartrefi.

Mae Adra yn annog tenantiaid a chwsmeriaid i ddweud eu dweud ar sut mae’r gymdeithas tai yn ymdrin â lleithder a llwydni mewn cartrefi.

Dywedodd Mathew Gosset, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau Adra: “Rydym yn adolygu ein prosesau i sicrhau bod gennym fesurau digonol ar waith i adnabod a delio gyda materion lleithder a llwydni.

“Mae’r rhain yn cynnwys ymchwilio ac archwilio, gan sicrhau bod problemau a’u hachosion yn cael eu diagnosio’n gywir a’u trin cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod tenantiaid yn cael cefnogaeth, cymorth a chyngor.

“Rydym yn bwriadu cyflwyno polisïau a gweithdrefnau newydd i ymdrin â lleithder a llwydni a byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth a’ch adborth gyda’r ffordd yr ydym yn delio â materion lleithder a llwydni.”

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad cyn yr 8fed o Fedi, 2023 drwy fynd i: Ymgynghoriad lleithder, llwydni a chyddwysedd – Adra