Ein Cynllun Corfforaethol 2022-2025

 

Darllen ein Cynllun Corfforaethol llawn

Gwyliwch y fideo esboniadol hwn i ddysgu mwy

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi beth rydym am ei gyflawni erbyn 2025. Mae’n adlewyrchu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein hegwyddorion sylfaenol, a’r gweithredoedd allweddol rydym yn dymuno eu cyflawni.

Ein Gweledigaeth

I ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid, buddsoddi yn ein stoc bresennol, ac adeiladu mwy o dai fforddiadwy o ansawdd uchel, carbon isel

Ein Gwerthoedd

Bydd ein nodau ar gyfer 2025 yn unol â’n gwerthoedd craidd:

Agored a Theg

Uchelgeisiol

Dibynadwy 

  • Byddwn yn agored ac yn deg o ran sut rydym yn ymateb i gwsmeriaid a sut rydym yn gweithredu ein busnes.
  • Byddwn yn agored ac yn gynhwysol i bawb, gan weithredu’n deg ac yn ddiduedd a pharchu
    urddas ac unigoliaeth pawb.
  • Byddwn yn agored i weithio mewn partneriaeth gydag eraill i hyrwyddo ein amcanion a’n huchelgeisiau.
  • Byddwn yn uchelgeisiol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, gyrru ein ein rhaglen adeiladu o’r newydd ac yn creu cyfleoedd i’n cwsmeriaid.
  • Byddwn yn croesawu creadigrwydd a newid wrth chwilio am ffyrdd gwahanol a newydd o wneud pethau i barhau i arwain y ffordd.
  • Byddwn yn gwella’r hyn a wnawn yn barhaus, a sut rydym yn gwneud ef.
  • Byddwn yn cryfhau ein sefyllfa fel prif ddarparwr tai yng Nghymru, tra’n cefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau i ffynnu.
  • Byddwn yn teilwra ein gwasanaethau i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid a fydd wrth wraidd popeth a wnawn.
  • Byddwn yn ddibynadwy ac yn ymatebol, gan barchu a gofalu am ein cwsmeriaid.
  • Byddwn yn darparu gwerth am arian yn barhaus o’n gwasanaethau.

Themâu allweddol y Cynllun Corfforaethol

RHOI PROFIAD RHAGOROL I’R CWSMER

Cyflawni cyfartaledd o dros 90% o foddhad Cwsmer â’n gwasanaethau rheng flaen

Erbyn 2025 byddwn wedi cyflawni:

  • Cynyddu boddhad ein cwsmeriaid gyda’n gwasanaethau
  • Cynnal ein safon tai gwag
  • Adolygu amserlenni gwaith cynnal a chadw
  • Gwella sut rydym yn gwrando ac ymateb

DARPARU CARTREFI O ANSAWDD Y GELLIR BOD YN FALCH OHONYNT

Adeiladu 750 o gartrefi newydd a Buddsoddi £60m yn ein cartrefi presennol

Erbyn 2025 byddwn wedi:

  • Cynyddu ein buddsoddiad yn ein cartrefi presennol
  • Cynyddu nifer ein cartrefi i dros 7,500
  • Cynnal cydymffurfiaeth o’n cartrefi a’r gofynion diogelwch
  • Cynnal cydymffurfiaeth ein cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru

DATGARBONEIDDIO EIN CARTREFI

Gwneud gwaith effeithlonrwydd ynni ar 1,000 o’n cartref

Erbyn 2025 byddwn wedi cyflawni:

  • Lleihau allyriadau carbon ein cartrefi’n gyffredinol
  • Cynyddu ein defnydd o ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy
  • Cynyddu y nifer o’n gweithlu mewnol wedi’u hyfforddi yntechnolegau ac adeiladu gwyrdd

CEFNOGI POBL A CHYMUNEDAU I FFYNNU

Cefnogi 5,000 o bobl i ffynnu

Erbyn 2025 byddwn wedi:

  • Cynyddu y nifer o bobl a gefnogir mewn I waith neu hyfforddiant
  • Gwella teimlad ein cwsmeriaid o fod yn ddigoel yn eu cartref a’u cymuned
  • Gwella lles a diogelwch ein cwsmeriaid
  • Gwella ein cyswllt a chefnogaeth gyda ein cwsmeriaid a’r gymuned ehangach