Boddhad cwsmeriaid

Rydym eisiau gwybod barn ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau.

I helpu ni wybod hyn rydym yn gweithio gyda cwmni allanol sydd yn cysylltu efo dros 135 o gwsmeriaid pob mis i dderbyn adborth am eu profiad efo ni.

Rydym yn defnyddio’r adborth i wella ein gwasanaethau, yn ogystal a’r hyn rydym yn dysgu ar ein teithiau stad a’r hyn mae ein cwsmeriaid yn ddweud wrthym.

Yn syml, rydym yn ceisio gwneud mwy o be dachi’n hapus efo a llai o’r hyn dachi ddim.

Rydym yn gweithio gyda chwmni ymchwil allanol i gynnal ac i ddadansoddi adborth cwsmeriaid.

 

Adroddiad adborth cwsmeriaid 2024/25

 

Holi eich barn chi

Bob mis rydym yn dewis sampl ar hap o gwsmeriaid sydd wedi cael gwasanaethau gwahanol gennym ni yn ystod y mis hwnnw. Enghreifftiau o’r gwasanaethau hynny yw:

  • trwsio
  • cefnogaeth gan ein tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • cyswllt gyda’n tîm rhent

Os ydych wedi eich cynnwys fel rhan o sampl, bydd staff ein canolfan alwadau yn cysylltu efo chi a byddant yn egluro pwrpas yr arolwg ac yn gofyn a ydych am gymryd rhan. Os oes gennych unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu efo’r ganolfan alwadau neu gysylltu efo ni mewn ffordd arall i gadarnhau mai ni sy’n eich ffonio.

Rydym yn defnyddio’r canlyniadau i’n helpu ni wella ein gwasanaethau ac efallai y byddwn ni yn defnyddio sylwadau dienw yn ein cyhoeddiadau.

Beth mae ein cwsmeriaid yn feddwl?

Beth nesaf?

Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn gosod amcanion uchelgeisiol i well pa mor hapus ydi ein cwsmeriaid efo ein gwasanaethau a’i cartrefi yn ogystal a sut fyddwn ni’n gwella Adra ac rydym yn gweithio i’w gwireddu.

Sut mae rydym yn cymharu?

Mae’r adborth rydym yn dderbyn, ac holiaduron sy’n cael eu cynnal gan Landlordiaid Tai Cofrestredig eraill yng Nghymru yn cael eu monitro gan ein Rheoleiddiwr, sef Llywodraeth Cymru.

Gall ein  cwsmeriaid, darpar gwsmeriaid neu unrhyw sefydliadau neu unigolion sydd gyda diddordeb weld sut mae ein cwsmeriaid yn teimlo am ein gwasanaethau.

Yn Mehefin 2025, bu i Lywodraeth Cymru ryddhau adroddiad am fodlonrwydd cwsmer ar draws Cymru Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid 2025 [HTML] | LLYW.CYMRU