Safon Gwasanaeth Gofal Cwsmer

Ein Hamcan

  • rydym yn anelu at fod yn brif ddarparwr tai a gwasanaethau o ansawdd
  • rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cyflenwi ein gwasanaeth yn unol â’n gwerthoedd craidd:

 

Teg

Rydym yn ymddwyn yn ddiduedd, yn parchu urddas ac unigolyddiaeth pawb.

Agored

Rydym yn ddibynadwy ac yn agored yn y modd yr ydym yn gweithio ac yn gwneud penderfyniadau.

Uchelgeisiol

Rydym yn sefydliad deinamig ac uchelgeisiol sy’n cefnogi arloesedd a chreadigrwydd, ac yn chwilio am gyfleoedd i wella bob agwedd o’n busnes.

Atebol

Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein penderfyniadau a’n gweithredodd ac i ganfod datrysiadau.

Rydym yn disgwyl i bob aelod o staff a chontractwyr:

  • od yn gwrtais
  • fod yn amyneddgar
  • fod yn bositif
  • fod yn gyfeillgar
  • fod yn barod i helpu
  • ddangos empathi at anghenion gwahanol ein cwsmeriaid a chadw at y datganiad cyfrinachedd

Byddwn bob amser yn ceisio:

  • ymdrin â’ch ymholiad yn brydlon
  • rhoi gwybod i chi am gynnydd yn rheolaidd
  • bod yn ddidwyll am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl
  • ymdrin â’ch ymholiad ar y pwynt cyswllt cyntaf
  • Pan ydych yn ymweld â ni
    • mae ein swyddfeydd ar agor 9am-5pm ddydd Llun i ddydd Gwener (ar wahân i wyliau banc)
    • byddwn yn gwisgo bathodynnau adnabod ar bob achlysur
    • gallwch ddewis siarad â swyddog yn Gymraeg neu’n Saesneg
    • mae’n syniad i chi wneud apwyntiad cyn ymweld â’n swyddfeydd os ydych yn dymuno siarad â swyddog penodol
    • os nad oes gennych apwyntiad, byddwn yn ceisio trefnu i chi weld swyddog sy’n gallu ymdrin â’ch ymholiad neu drefnu i chi eu gweld ar adeg sy’n gyfleus i chi ac iddynt hwy
    • gadewch i ni wybod os hoffech drafod eich ymholiad yn breifat
    • bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i drefnu ymweliad ar amser sy’n gyfleus i chi ac i ni
    • byddwn yn cyflwyno ein hunain, yn dangos ein bathodynnau adnabod ac yn egluro pwrpas yr ymweliad
  • Pan ydych yn cysylltu â ni:

    Rydym yn annog ein cwsmeriaid i gysylltu â ni yn ddigidol Rydym yn cynnig ystod o opsiynau i chi gysylltu gyda ni. Mae’r rhain yn cynnwys;

    • e-bost
    • gwefan a ffurflenni electronig
    • Facebook
    • Twitter
  • Pan ydych yn anfon e-bost atom neu’n cwblhau ffurflen ymholiadau ar-lein
    • rydym yn annog cwsmeriaid i anfon e-bost at ymholiadau@adra.co.uk neu gwblhau’r ffurflen ymholiadau ar-lein
    • byddwn yn cydnabod pob e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith a rhoi ymateb llawn i’r ymholiad ymhen 10 diwrnod gwaith. Os nad oes modd i ni ateb eich ymholiad yn llawn o fewn yr amser hwn, byddwn yn eich hysbysu o gynnydd
    • os ydych yn anfon e-bost at aelod penodol o staff pan maent i ffwrdd o’r swyddfa, byddwn yn sicrhau bod neges awtomataidd yn cael ei hanfon, yn rhoi gwybod pryd y byddant yn ôl yn y swyddfa a phwy i gysylltu â hwy yn eu habsenoldeb
    • gallwch anfon e-bost atom yn Gymraeg neu’n Saesneg a byddwn yn ateb yn eich dewis iaith.
    • byddwn yn defnyddio iaith glir sy’n hawdd ei deall
    • bydd e-byst yn cynnwys enw’r tîm enw Swyddog sy’n ymdrin â’r ymholiad
  • Pan ydych yn ein ffonio

    Cysylltwch â ni ar 0300 123 8084

    • mae ein llinell ffôn ar agor o 8am – 5:30pm dydd Llun i ddydd Gwener (ar wahân i wyliau banc)
    • bydd ein tîm Gwasanaethau Cwsmer yn ymdrin â’ch galwadau
    • mae ein llinell trwsio argyfwng ar agor 24 awr y dydd (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Galw Gofal sy’n delio â galwadau sydd y Tu allan i Oriau gwaith arferol.
    • bydd ein galwadau yn cael eu recordio at ddibenion hyfforddi a monitro
    • ein hamser prysuraf yw rhwng 9am – 10am. Os nad yw eich galwad yn alwad brys, rydym yn eich cynghori i osgoi ffonio yn ystod y cyfnod hwn
    • gallwch ddewis siarad â swyddog yn Gymraeg neu’n Saesneg
    • byddwn yn rhoi enw i chi fel y byddwch yn gwybod gyda phwy yr ydych yn siarad
    • os nad oes modd i ni ymdrin â’ch ymholiad ar y pwynt cyswllt cyntaf, byddwn yn ceisio trosglwyddo’r alwad i’r swyddog neu dîm perthnasol.
    • os nad yw’r swyddog / tîm perthnasol ar gael, byddwn yn cymryd neges.
    • os nad oes modd i ni ateb eich galwad cychwynnol yn llawn, byddwn yn ceisio dychwelyd galwadau o fewn dim llai na 3 diwrnod gwaith
    • gellir darparu manylion cyswllt uniongyrchol ar gyfer materion parhaus a byddwch yn cael gwybod am gynnydd.
  • Pan ydych yn ysgrifennu atom
    • byddwn yn cydnabod pob llythyr o fewn 1 diwrnod gwaith a rhoi ymateb llawn i’r ymholiad ymhen 10 diwrnod gwaith. Os nad oes modd i ni ateb eich ymholiad yn llawn o fewn yr amser hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y byddwn yn disgwyl y bydd modd i ni wneud hyn.
    • byddwn yn anfon holl lythyrau ar bapur pennawd swyddogol a fydd yn cynnwys manylion cyswllt.
    • gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg neu’n Saesneg a byddwn yn ateb yn eich dewis iaith.
    • byddwn yn defnyddio iaith glir sy’n hawdd ei deall
  • Pan ydych yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
    • byddwn yn cydnabod holl bostiadau perthnasol ar y cyfryngau cymdeithasol o fewn 1 diwrnod gwaith
    • rydym yn croesawu cyswllt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, fodd bynnag, rydym yn eich annog i beidio â chysylltu â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol am faterion personol neu faterion sydd angen sylw brys
  • Pan fyddwn yn anghywir
    • os ydych yn anfodlon gyda’n gwasanaeth, rhowch wybod i ni
    • byddwn yn ymdrin ag unrhyw faterion sy’n codi drwy ein Polisi Cwynion a Phryderon
    • byddwn bob amser yn egluro bod modd i chi apelio neu ofyn am adolygu penderfyniad
    • rydym yn annog cwsmeriaid i ddarparu adborth ar ein gwasanaethau ac efallai y byddwn yn eich gwahodd i gwblhau Holiadur Boddhad
    • rydym yn defnyddio adborth i wella ein gwasanaethau, ewch draw i’n tudalen ‘Yma i wrando’ i chi gael gweld beth rydym wedi ei newid wrth wrando ar eich adborth
  • Datganiad Polisi
    • rydym yn cydnabod anghenion poblogaeth amrywiol ac wedi ymrwymo i drin ein holl gwsmeriaid yn deg a phob amser yn ymddwyn o fewn cwmpas ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a chyfraith berthnasol.
    • rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i’n holl gwsmeriaid.
    • byddwn yn cadw at ein polisïau a gweithdrefnau wrth ymdrin â’n cwsmeriaid ac rydym yn cydnabod y bydd angen o bosib gwneud eithriadau mewn rhai amgylchiadau.

Adolygu Safon Gwasanaeth:

  • bydd y safon gwasanaeth hon yn cael ei hadolygu bob blwyddyn neu ynghynt os oes newidiadau i arferion gorau, polisïau neu gyfreithiau perthnasol eraill.