Yma i wrando

Mae eich adborth fel cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni, gan ei fod yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau.

Bydd y dudalen hon yn rhoi adborth i chi ar sut rydym wedi gwrando ar eich barn ac wedi gweithredu arno.

Mae eich adborth yn bwysig iawn:

  • Cododd rhai ohonoch bryderon am y gwasanaeth glanhau. O ganlyniad, mae gennym cwmni glanhau newydd.
  • Roedd rhai ohonoch eisiau gwell cyfathrebu gennym ni yn dilyn archwiliadau yn eich cartref. Rydym wedi gwneud newidiadau a byddwch yn cael adborth uniongyrchol ar ôl yr arolygiadau.
  • Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am fwy o wybodaeth am ble mae eich arian rhent yn mynd.

Ble mae eich arian rhent yn mynd

Un o’r darnau o adborth rydym wedi’i dderbyn yw bod rhai ohonoch eisiau gwybod sut mae eich arian rhent yn cael ei ddefnyddio.
Os edrychwn ar rent cyfartalog o £111.78 yr wythnos, dyma sut mae’n cael ei ddefnyddio.
  • Mae £22.36 yn mynd ar atgyweirio a chynnal a chadw eich eiddo.
  • Mae £39.12 yn mynd ar y rhaglen fuddsoddi – adnewyddu ceginau newydd, toeau, ffenestri ac ati.
  • £8.94 ar reoli asedau, fel paratoi ar gyfer gwaith buddsoddi, rheoli draenio ac ati.
  • £15.37 ar reolaeth Adra ar gyfer gwasanaethau i gefnogi tenantiaid.
  • £12.58 ar gostau landlordiaid – casglu rhent, gosod cartrefi, gwasanaethau cymdogaeth a gwasanaethau cynghori.
  • £13.41 tuag at gostau talu benthyciadau fel rhan o’n buddsoddiad o £121 miliwn i ddod â chartrefi i Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Diolch am yr adborth. Mae’r wybodaeth hon ar gael yn ein hadroddiad blynyddol sydd i’w weld ar ein gwefan

Gwrando ac ymateb

Rydym wedi gwrando ar adborth ein cwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn mewn gwahanol ffyrdd, a dyma rhai o’r newidiadau a gwelliannau yr ydym wedi’u gwneud:

Profiad siwrnai’r cwsmer

  • Trosglwyddo contract (cyfnewid cartref)

    Dywedodd cwsmeriaid wrthym fod y broses yn gallu bod yn gymhleth ac yn cymryd gormod o amser.

    Rydym wedi gwrando ac wedi gwneud newidiadau i’w gwneud yn gliriach ac yn haws.

    Rydym hefyd wedi diweddaru’r wybodaeth i gwsmeriaid ac wedi gosod amserlenni clir i’w dilyn.

  • Apwyntiadau

    Dywedodd rhai cwsmeriaid fod apwyntiadau a gollwyd, eu canslo neu eu haildrefnu yn peri pryder.

    Rydym wedi cyflwyno negeseuon atgoffa drwy neges destun a galwad ffôn.

    O ganlyniad, mae llai o apwyntiadau’n cael eu colli ac mae llai o angen i’w haildrefnu.

  • Talu rhent

    Dywedodd cwsmeriaid eu bod eisiau mwy o ddewis o ran sut i dalu rhent.

    Rydym wedi cyflwyno dulliau talu newydd, gan gynnwys Pay by Link ar ffôn symudol a thalu ar-lein drwy ap neu wefan Allpay.

  • Glanhau ardaloedd cyffredin

    Dywedodd cwsmeriaid nad oeddent yn fodlon ag ansawdd na gwerth y gwasanaeth glanhau.

    Rydym wedi adolygu’r contract ac wedi cyflwyno darparwr newydd.

    Mae ein cwsmeriaid yn dweud eu bod yn fwy bodlon gyda’r gwelliannau.

  • Atgyweiriadau i’r cartref

    Dywedodd cwsmeriaid eu bod yn derbyn sawl ymweliad ar gyfer un atgyweiriad, gan arwain at oedi ac anghyfleustra.

    Rydym wedi hyfforddi ein tîm i gasglu mwy o wybodaeth o’r cychwyn ac annog cwsmeriaid i anfon lluniau neu fideos.

    Mae hyn yn ein helpu i anfon y tîm cywir gyda’r offer a’r rhannau cywir y tro cyntaf.

     

     

Newidiadau polisi

  • Gwasanaethu tanwydd solet

    Rydym wedi ymgynghori gyda chwsmeriaid ar ein rhaglen gwasanaethu tanwydd
    solet ac wedi lleihau’r nifer o weithiau yr ydym yn eu gwasanaethu a phryd.

  • Llawlyfr tenantiaid

    Rydym wedi gofyn i denantiaid newydd am eu hadborth ac argraffiadau o’n
    “llawlyfr tenant”, ac maent wedi ein sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn
    hawdd i’w ddeall.

  • Gwasanaeth addasiadau a chefnogaeth

    Rydym wedi gofyn i’n cwsmeriaid am eu profiad o’n gwasanaeth addasiadau a
    chefnogaeth ac wedi casglu gwybodaeth bwysig i ddiweddaru ac addasu ein
    polisi a phroses addasiadau.

Dylanwadu

Cyfathrebu

  • Cyfathrebu da a chyfleoedd i ymgysylltu

    Dywedodd ein cwsmeriaid eu bod yn gwerthfawrogi cyfathrebu da a chyfleoedd i ymgysylltu gyda ni.

    Rydym wedi gwrando ac wedi cyflwyno galwadau fideo yn ein canolfan gyswllt.

    Rydym hefyd wedi cynyddu ein presenoldeb yn swyddfeydd Pwllheli, Dolgellau a Phenygroes fel bod cwsmeriaid yn gallu siarad gydag aelod
    o’n tîm yn hytrach na ffonio.