Picture of one of our call centre officers

Annog cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg

Mae Cymdeithas Dai Adra wedi lansio ymgyrch i annog tenantiaid a’r cyhoedd i ddefnyddio’i gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ yn estyniad o’r ymgyrch genedlaethol gan Gomisiynydd y Gymraeg i annog rhagor o bobl i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg a sicrhau fod pobl yn gwybod eu hawliau wrth gyrchu gwasanaethau.

Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar hyrwyddo tudalennau Cymraeg Adra, yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael dros y ffôn. Bydd yr ymgyrch hefyd yn hyrwyddo sianeli cyfryngau cymdeithasol Adra.

Dywedodd Aled Davies, Pennaeth Llywodraethu Adra: “Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n gallu cynnig ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae nifer fawr o bobl yn cyrchu ein gwasanaethau ar-lein a dros y ffon yn yr iaith, ond rydym yn dymuno hyrwyddo’r sianeli hyn er mwyn annog rhagor o bobl i’w defnyddio.

“Mae Adra yn gweithredu ar draws rhan helaeth o siroedd y Gogledd, yn arbennig yng Ngwynedd, felly mae darparu gwasanaethau Cymraeg o’r radd flaenaf yn rhan bwysig o’n diwylliant a sicrhau bod ein trigolion a chwsmeriaid yn gallu cyrchu gwybodaeth yn eu dewis iaith. Mae dros 90% o staff Adra yn siarad Cymraeg ac mae’r sefydliad wedi ymrwymo yn ei Chynllun Iaith i gynyddu defnydd o’r gwasanaethau.

“Rydym hefyd yn falch o allu gweithredu er mwyn cyfrannu i’r ymgyrch genedlaethol gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hi’n hynod o bwysig bod ein tenantiaid yn gwybod eu hawliau o ran disgwyl gwasanaeth gennym yn Gymraeg. Mae hi’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i chwarae ein rhan”.