Annog tenantiaid i ofyn am help os oes newid i’w sefyllfa ariannol yn sgil Coronafeirws

Mae darparwyr tai cymdeithasol Gwynedd sef ni, Grwp Cynefin, Tai Gogledd Cymru ynghyd â Chyngor Gwynedd, sy’n rhan o’r Grŵp Diwygio Lles, yn annog tenantiaid i gysylltu hefo ni os ydynt yn ei gweld yn anodd i dalu eu rhent, o achos newid i’w sefyllfa ariannol.

Mae’r Coronafeirws a’i sgil-effeithiau yn golygu ei bod yn amser ansicr iawn i lawer o bobl ar hyn o bryd. Gall hyn yn ei dro gael effaith ganlyniadol, fel colli gwaith, llai o oriau o waith, llai o gyflog, ac felly llai o incwm.

Dywedodd  Tal Michael, Cadeirydd Grŵp Diwygio Lles Gwynedd:

“Gan ei bod yn amser hynod ansicr i nifer o bobl sy’n denantiaid, boed yn denantiaid Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru, neu yn denantiaid i landlord preifat yng Ngwynedd, rydym yn deall bod rhai yn poeni am newidiadau i’w hincwm a’u gallu i dalu rhent, biliau a chostau pwysig eraill.”

Dywedodd Sion Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cwsmeriaid a Chymunedau Adra, ac aelod o’r Grŵp Diwygio Lles:

“Os oes unrhyw newid yn amgylchiadau tenantaid, fel eu swydd neu fudd-dal tai, rydym yn eu hannog i roi gwybod i’w cymdeithas dai cyngynted â phosib. Gall ein timau roi cyngor iddynt am beth i wneud nesaf. Rydym eisiau clywed gennych chi ac eisiau eich cefnogi a’ch helpu, felly os ydi hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch hefo ni.

“Rydym hefyd yn annog i denantiaid sydd hefo landlord preifat neu gymdeithasol a sydd yn yr un sefyllfa, i gysylltu hefo Cyngor Gwynedd”.

Mae’r cymdeithasau tai a Chyngor Gwynedd yn gweithio yn agos gydag asiantaethau fel Cyngor ar Bopeth (CAB), sy’n rhoi cyngor diduedd annibynnol yn ddi-dâl all eich cyfeirio ymlaen i dderbyn budd-daliadau’r ydych yn gymwys eu derbyn. Gall fod yn Gredyd Cynhwysol er enghraifft, sef taliad misol i helpu bobl hefo eu costau byw yn ddibynnol ar gwahanol ffactorau. Mae CAB hefyd yn gweithio hefo’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Gwaith Gwynedd, sef gwasanaeth sy’n gallu rhoi cymorth i bobl ddod o hyd i swyddi a hyfforddiant newydd. Mae rhain i gyd yn aelodau o’r Grŵp Diwygio Lles Gwynedd, mae holl aelodau’r bartneriaeth yn gallu cynnig cymorth mewn gwahanol ffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Mae Coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar fywydau llawer iawn o bobl. Ar ben hynny, mae’n effeithio ar swyddi a sefyllfaoedd ariannol trigolion Gwynedd a gogledd Cymru.

“Wrth gysylltu hefo’ch cymdeithas dai, gall fod y cam cyntaf at gael y cymorth ydach chi angen i ddod drwy’r heriau ydach chi’n wynebu, a chael eich cyfeirio at yr help ydach chi ei angen.

“Mae’n bwysig, os ydych yn denant i un o’r cymdeithasau tai uchod, sef Adra Grŵp Cynefin neu Tai Gogledd Cymru eich bod yn cysylltu hefo nhw, ac os ydych yn denant i landlord preifat neu gymdeithasol, cysylltwch hefo tîm Cyngor Gwynedd am y wybodaeth i’ch helpu.”

Manylion Cyswllt

I gysylltu hefo ni: 0300 123 8084 / ymholiadau@adra.co.uk

I gysylltu hefo Grŵp Cynefin: 0300 111 2122 / post@grwpcynefin.org

I gysylltu hefo Tai Gogledd Cymru (North Wales Housing): 01492 572727 / customerservices@nwha.org.uk

I gysylltu  hefo tîm Uned Gorfodaeth Tai Cyngor Gwynedd: 01766 771000 / Tai@gwynedd.llyw.cymru

Mae swyddfeydd y cymdeithasau tai ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd ond cofiwch bod dal modd i gysylltu.

Cefndir: 

Dechreuodd y Grwp Diwygio Lles Gwynedd wrth i ddyddiad Credyd Cynhwysol i drigolion Gwynedd nesau, sef Rhagfyr 2018.

Mae’r grwp yma yn cael ei gadeirio gan Tal Michael, Prif Weithredwr CAB Gwynedd. Dyma rwydwaith o bartneriaid strategol allweddol o fewn Gwynedd gan gynnwys Adra, Cyngor Gwynedd, Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cyngor ar Bopeth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Amcanion

Prif amcanion y grwp oedd:

  • I sicrhau eu bod yn helpu trigolion Gwynedd drawsnewid yn effeithiol i Gredyd Cynhwysol
  • Gweithio mewn partneriaeth i leihau effaith CC ar drigolion Gwynedd
  • Datblygu Cynllun Gweithredol cyfunol
  • Bellach, yn 2020, o effaith ganlyniadol Coronafierws, mae’r grwp yn ceisio sicrhau bod y rhai sydd angen Credyd Cynhwysol yn cael mynediad ato ac yn gwybod sut i gael mynediad at wasanaethau a’r gefnogaeth maen nhw eu hangen