Graphic about 'how to prevent damp and mould in your home'

Atal a Lleihau Damp a Llwydni yn eich cartref

I ryw raddau, bydd bob cartref yn cael damprwydd o dro i dro. Mae’r broblem yn dechrau pan mae dŵr yn casglu a methu dianc.  

Rydym eisiau i’n cwsmeriaid fyw mewn cartrefi cyffyrddus, braf maent yn teimlo’n ddiogel ynddynt. Rydym hefyd yn deall bod tamprwydd yn broblem sy’n peri gofid i bobl. Mae llawer o bethau yn effeithio ar damprwydd, chyddwysiad a llwydni, felly rydym wedi creu fideo hefo tips bach ynglŷn â’r pethau allwch chi wneud i atal a lleihau tamprwydd yn eich cartref.  Er y tips yn y fideo, rydym eisiau ei gwneud hi’n glir iawn ein bod ni’n deall bod y broblem yn gallu mynd allan o’ch rheolaeth. Os ydych yn gweithredu’r tips yma a dal yn cael problemau tamprwydd a llwydni – peidiwch â dioddef yn ddistaw, cysylltwch hefo ni er mwyn i ni eich helpu. Rydym eisiau sicrhau eich bod yn byw mewn cartref cyffyrddus, diogel: ymholiadau@adra.co.uk / 0300 123 8084.

Pethau allwch chi eu gwneud yn eich cartref bob dydd i atal llwydni: 

  • Cadw drws y gegin ar gau ac agor ffenestr wrth goginio
  • Rhoi caead ar sosbenni wrth goginio
  • Gwneud defnydd o ffan os oes un yn y gegin ac ystafell ymolchi
  • Cau drysau ystafell ymolchi wrth ddefnyddio’r bath a gadael ffenestr yn agored wedyn
  • Lleihau’r stêm wrth redeg bath rhowch ddŵr oer gyntaf ac wedyn dŵr poeth
  • Peidiwch â gorlenwi cypyrddau – gwnewch yn siŵr bod lle i awyr symud
  • Peidiwch â gosod dodrefn a gwelyau yn rhy agos at y waliau
  • Cadwch y gwres ymlaen yn isel yn ystod y dydd mewn cyfnodau tywydd oer
  • Ceisiwch beidio defnyddio gwresogyddion paraffin neu nwy heb ffliw
  • Wrth ddefnyddio sychwr dillad, rhowch y beipen allan trwy ffenestr neu ddrws
  • Agor ffenestr wrth sychu dillad yn y tŷ
  • Peidio sychu dillad ar reiddiaduron cynnes

Er hyn, rydym yn deall weithiau bod y broblem yn gallu mynd allan o’ch rheolaeth. Os ydych yn gweithredu’r tips yma a dal yn cael problemau tamprwydd a llwydni – peidiwch â dioddef yn ddistaw, cysylltwch hefo ni. Rydym eisiau sicrhau eich bod yn byw mewn cartref cyffyrddus, diogel: enquiries@adra.co.uk / 0300 123 8084