Buddsoddi yn eich cartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon

Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda chwmni adeiladu lleol W.F.CLaytons ar nifer o gynlluniau ar ein cartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon. 

Mae gan W.F.Claytons dros 35 mlynedd o brofiad yn y maes adeiladu a mae’n bleser cael cydweithio gyda nhw eto. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r cartrefi sydd gennym i’n tenantiaid ac felly mae’n hanfodol ein bod yn buddosddi yn y cartrefi yma er mwyn cyfarch yr angen lleol am dai. 

Trwy weithio law yn llaw a W.F.Claytons byddwn yn canolbwyntio ar waith allanol yn y cartrefi yma.

Bydd y gwaith yn amrywio o gartref i gartref a bydd ein staff yn trafod gyda phob tenant yn unigol yn dilyn archwiliad ar y cartref, ond yn fras dyma beth all gwaith allanol ei olygu: 

  • Gosod to newydd  
  • Ail chwipio waliau  
  • Insiwleiddio waliau’r cartref 
  • Gosod ffenestri a drysau newydd 
  • Gosod gwteri a ‘fascia boards’ newydd 
  • Gwella neu gosod ffens a llwybrau newydd 

Fel dachi’n ei weld mae’n waith sylweddol ar gartref a mae cwblhau gwaith fel hyn yn cymryd amser. Ond rydym yn teimlo fod buddsodi arian ag amser i wneud y gwaith yma yn un o’n prif flaenoriaethau ni.  Gyda phrisiau ynni yn cynyddu a chostau byw mor uchel rydym yn deall y pwysau sydd ar bawb gan gynnwys ein cwsmeriaid ac felly yn deall pwysigrwydd gwneud eich cartref y mwyaf effeithlon â phosib.  

Yn ôl Mathew Gosset, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau 

“Mae cael cydweithio a chwmni W.F.Claytons ar y gynlluniau yma yn golygu ein bod yn cadw’r bunt yn lleol a fod y gymuned leol yn elwa o’r buddosoddiad trwy gynlluniau gwerth cymdeithasol.”  

“Mae’r math yma o waith yn cael effaith positif ar ôl- carbon ac effeithlonrwydd ynni y cartref. Ar gyfartaledd mae pob cartref sydd yn derbyn gwaith insiwleiddio yn lleihau ei ôl-troed carbon tua 20% a mae hefyd yn help i leihau costau ynni i’n tenantiaid, sy’n bwysig iawn yn yr hinsawdd bresennol”. 

Cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld lluniau ar sut mae’r datblygiadau yma yn dod yn eu blaen dros yr wythnosau nesaf.