Chwilio am gartref llai

Weithiau mae amgylchiadau personol yn newid ac efallai nad ydy eich cartref presennol yn eich siwtio erbyn hyn.

Fe allwn ni ddod o hyd i gartref sy’n eich siwtio chi’n well.

Rhesymau dros symud

  • cartref rhy fawr
  • byw ar eich pen eich hun
  • poeni am y gost o gynhesu eich cartref
  • ei chael hi’n anodd i lanhau eich cartref neu edrych ar  ôl eich gardd
  • eisiau byw yn agosach at deulu a ffrindiau
  • mae gennych anableddau  neu anghenion arbennig a byddai’n haws i chi fyw mewn cartref sydd wedi ei addasu

Gall cartref llai fod yn haws i chi ymdopi ag o.

Byddai costau rhent, treth cyngor a chostau gwresogi  yn llawer llai.

Gallwn eich symud i gartref fwy addas a gwneud unrhyw addasiadau cyn i chi symud i mewn fel ei fod yn barod i chi allu byw yn annibynnol.

Efallai eich bod yn byw mewn cartref pedair ystafell wely a dim ond yn defnyddio tair ystafell.

Os ydych yn gymwys gallwn eich symud i un o’n tai cefnogol.

Mae’r galw am gartrefi mwy yn uchel. Trwy symud i gartref llai fe allwch ryddhau cartref i deulu gael ei fwynhau.

Help i symud

Mae symud cartref yn gallu bod yn anodd a chostus ond fe allwn eich helpu gyda hyn.

Gallwn eich helpu gyda’r gwaith pacio yn ogystal â chostau symud.

Gallwn gynnig cyngor ymarferol â chefnogaeth yn ystod y broses o symud.

Gall ein staff eich helpu i ddod o hyd i fuddion eraill er mwyn symud.

 

 

Sut alla i symud i gartref llai

Os oes gennych ddiddordeb mewn symud, cysylltwch efo ni. 

Bydd ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cysylltu  efo chi wedyn i egluro’r broses cam wrth gam a’ch helpu trwy’r holl broses o symud.

Yna byddwch yn cael eich rhoi ar gofrestr tai. Pan fydd cartref sy’n cyd-fynd a’ch anghenion ar gael byddwn yn cysylltu â chi. Byddwch yn cael ymweld â’r cartref cyn penderfynnu os yr hoffech fyw yno.

Os oes cartref ar gael i chi ac nad ydych yn barod i symud neu nad ydych eisiau symud i’r cartref hwnnw ni fydd rhaid i chi symud yno. Bydd eich enw yn aros ar y Gofrestr Tai.

Pwy sy’n cael symud?

Mae’n rhaid i’ch cyfrif rent fod yn glir neu eich bod wedi cytuno ar gynllun i dalu eich dyledion rhent gyda ni.

Ni fydd cwsmeriaid sydd wedi bod yn rhan o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cael symud.

Addasu eich cartref

Ein bwriad yw darparu cartrefi o safon sy’n addas i’n cwsmeriaid. Ond mae prinder cartrefi ar gyfer teuluoedd ac mae’n bwysig ein bod ni’n rheoli ein cartrefi yn effeithiol.

Ni fyddwn felly yn gwneud gwaith sylweddol mewn cartref ble nad yw’n addas i’r cartref hwnnw. Er enghraifft:

  • cartrefi sydd efo ystafelloedd gwely spâr
  • os yw’r addasiadau sydd yno yn barod o safon
  • os oes cais i brynu neu symud i gartref arall wedi ei wneud
  • os oes problemau strwythurol

Mae mwy o wybodaeth am addasiadau ar ein tudalen gwneud cais am addasiadau.

Newid i fudd-daliadau Lles

Mae budd-daliadau wedi newid ers Ebrill 2013.

Mae’r Llywodraeth yn rhoi llai o fudd-daliadau lles i gwsmeriaid sydd ag ystafelloedd sbâr yn eu cartrefi.

Mae mwy o wybodaeth am fudd-daliadau ar wefan GOV.UK