Chwilio am eich barn chi ar delerau ac amodau newydd

Rydym ni yn ymgynhori ar newidiadau posibl i delerau ac amodau ein Cytuneb Tenantiaeth.

Mae’r ymgynhoriad yn fyw o 26 o Hydref hyd at 22 Tachwedd.

Mae’r holl fanylion gan gynnwys

  • y gytundeb bresennol
  • y gytundeb newydd rydym yn ei gynnig
  • manylion sydd wedi cael eu tynnu allan

i gyd ar gael ar ein gwefan.

Gweld manylion yr ymgynghoriad

Yma hefyd mae yna linc i ffurflen ar-lein i chi allu mynegi eich barn am y newidiadau yma.

Rydym yn derbyn nid pawb sydd ar-lein, felly os hoffech gopi papur, cysylltwch â ni i gael copi yn y post.

 

Pam cynnig y newidiadau yma?

Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) gyda’r amcan o’i gwneud hi’n syml a haws i denantiaid rentu cartref yng Nghymru.

Mae’n cyflwyno lot o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth. O ganlyniad, bydd pob tenant yng Nghymru yn cael cytundebau tenantiaeth newydd gyda’u landlord ar ddyddiad y bydd y Llywodraeth yn ei bennu. Rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd yn 20201/2022 – fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau dyddiad eto. I baratoi ar gyfer hyn, rydym yn edrych ar gynnwys ein cytundeb tenantiaeth bresennol. Mae rhai o’r telerau ac amodau yn cael eu newid i’w gwneud yn haws i’n tenantiaid eu deall.  Mae peth o’r wybodaeth wedi’i dileu oherwydd does dim ei angen erbyn hyn.

 

Canlyniadau’r Ymgynghoriad

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu rhyddhau yma ar ein gwefan yn fuan yn dilyn y dyddiad cau.

Rydym yn edrych ymlaen i glywed eich barn ar ein cynnigion.