Adra and Gisda staff outside new homes

Cydweithio hefo GISDA i atal digartrefedd

Rydym ni a GISDA yn cydweithio er mwyn ceisio atal digartrefedd.  
Mae GISDA yn elusen sy’n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc bregus ers dros 38 o flynyddoedd. Maent yn gweithredu ar draws Gwynedd ac yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth i bobl ifanc gan gynnwys cefnogaeth am lety a chefnogaeth taith i gyflogaeth. Gan ein bod ni’n Adra’n gymdeithas a ddarparwr tai gyda chalon gymdeithasol, mae’n gwneud synnwyr bod y ddwy sefydliad yn cydweithio.
Mae hyn yn golygu bod cytundeb wedi ei arwyddo a’i greu rhyngom a GISDA ar gyfer darparu llety yn un o’n safleoedd yng Nghaernarfon, i GISDA ddefnyddio ar gyfer pobl ifanc gyda gosodiad o swyddfa a chwe cartref. Oherwydd llwyddiant y cynllun yma  rydym wedi gallu adolygu’r cytundeb rheolaeth sydd mewn lle gyda GISDA er mwyn i’r trefniant barhau.
Dywedodd Mari Pritchard, ein Rheolwr Datblygu Busnes yma’n Adra:
 “Rydym yn falch o fod yn parhau i weithio mewn partneriaeth hefo GISDA er mwyn ceisio atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yng Ngwynedd.
“Mae tystiolaeth diweddar wedi dangos nad oes darpariaeth digonol yng Ngwynedd ar gyfer pobl ifanc sydd yn rhannol barod i fyw yn annibynnol. Mae y cynllun yma yn mynd i’r afael â’r diffyg hwn ac yn sicrhau bod cartref i bobl ifanc nad oes angen yr un lefel o gefnogaeth bellach i symud ymlaen i fyw yn rhannol annibynnol.”
Dywedodd Sian Tomos, Prif Weithredwr GISDA:
“Mae’r llety yma yn ran allweddol o daith ein pobl ifanc i fyw yn annibynnol. Mae’n gyfnod heriol ond eto yn un cyffrous iawn.
“Mae’r bobl ifanc wrth eu bodd yn cael allwedd i’w cartref cyntaf ac mae’n fraint ac yn bleser mawr i ni gefnogi’r bobl ifanc a’u gweld yn datblygu sgiliau newydd.
Mae’r bartneriaeth gydag Adra yn un arbennig iawn. Ein gobaith yw adeiladu ar hyn ar y cyd gan greu rhagor o gartrefi gyda chefnogaeth i bobl ifanc.”
Mae darparu yr eiddo yma i GISDA yn caniatáu iddynt ddarparu cartrefi i bobl ifanc  i fyw mewn unedau eu hunain hefo cefnogaeth. Mae hyn hefyd yn caniatáu i Adra chwarae ein rôl i atal digartrefedd yng Ngwynedd.
 Mae pawb yma’n Adra yn falch iawn o cael parhau i gydweithio gyda GISDA ac mewn trafodaethau ar y posibilrwydd o cael mwy o drefniadau tebyg yn y dyfodol.