Y Bwrdd

I sicrhau ein llwyddiant, mae’n hanfodol ein bod yn cael ein llywodraethu yn effeithiol er lles ein cwsmeriaid. Mae llywodraethiant yn disgrifio’r modd yr ydym yn cael ein rheoli.

Caiff trefniadau llywodraethol holl Gymdeithasau Tai yng Nghymru eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru. Am wybodaeth bellach am hyn, ewch i’n tudalen Rheoleiddio. Mae’r cwmni hefyd yn dilyn arferion gorau’r sector, gan gynnwys cydymffurfio â Chôd Llywodraethu CHC.

Mae gennym Fwrdd cryf o Gyfarwyddwyr Anweithredol, sy’n gwneud penderfyniadau busnes allweddol ac yn pennu blaenoriaethau a chyfeiriad strategol y cwmni. Mae hyn o gymorth i sicrhau bod y cwmni yn aros yn: 

  • hyfyw 
  • yn cael ei redeg yn dda 
  • cyflawni’r canlyniadau mae wedi cael ei greu i’w cyflawni 

Mae cyfansoddiad  a gweithrediad y Bwrdd yn cael eu llywodraethu gan ein Rheolau.

Mae gan y Bwrdd ddau Bwyllgor sy’n adolygu meysydd busnes penodol: 

  • y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd 
  • y Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau 

Mae gennym banel sefydlog hefyd, maent yn edrych ar faterion:  

  • Penodi 
  • Tâl 
  • Disgyblu 

Mae’r rhain yn ymdrin â meysydd busnes penodol, ac mae eu cylch gorchwyl yn cael ei ddiffinio gan ein Rheolau Sefydlog.     

Mae ein Bwrdd o faint hyblyg, yn amrywio o 9 a 12 aelod llawn. Mae hyn yn cynnwys hyd at 2 aelod tenant a 2 o Awdurdod Lleol. Rydym hefyd yn ethol Aelodau ychwanegol i ddod â sgiliau penodol ychwanegol. Mae Aelodau’r Bwrdd yn meddu ar wahanol sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau i roi trosolwg gwrthrychol a chryfhau’r ffordd rydym yn cael ein rheoli. 

Dod i adnabod ein Aelodau Bwrdd

Hywel Eifion Jones (Cadeirydd) 

(Aelod Annibynnol o’r Bwrdd): Mae Eifion yn gwasanaethu fel Cadeirydd y Bwrdd, ac yn eistedd ar y Panel Penodi, Tâl a Disgyblu (PPTD). Mae Eifion yn aelod cyswllt o’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Bancwyr, ar ôl 34 mlynedd mewn swyddi uchel gyda Barclays. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cynghorydd ar Gyngor Ynys Môn ac fel aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n Ynad ac yn aelod o Fwrdd, Bwrdd Pensiwn Gwynedd a Thribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru. 

Sasha Davies (Is-gadeirydd) 

(Aelod Annibynnol o’r Bwrdd): Ynghyd â gwasanaethu fel Is-gadeirydd, mae Sasha yn aelod o’r Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau a’r PPTD. Mae hi’n gyfarwyddwraig ei busnes / ymgynghoriaeth ei hun yn arbenigo mewn datblygu busnes a chymuned ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Roedd Sasha hefyd yn gwasanaethu fel Pennaeth Masnachol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a chyn hynny yn Bennaeth Datblygiad Strategol Cymru gyda Horizon Nuclear PowerRolau eraill y mae hi wedi ymgymryd â nhw yw Cyfarwyddwr Strategol Economi a Lle gyda Chyngor Sir Conwy a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Ynys Ynni Ynys Môn.  

Mark Jones 

(Aelod Bwrdd Annibynnol) Mae Mark yw Cadeirydd y Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau. Gwasanaethodd gyda Heddlu Gogledd Cymru am 30 mlynedd gan gynnwys mewn swyddi Awdurdod ar draws y llu ond yn bennaf yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae hefyd yn gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol. 

Cai Larsen

(Aelod o’r Bwrdd wedi’i Enwebu gan yr Awdurdod Lleol):

Mae Cai yn eistedd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r PPTD. Mae ganddo 20 mlynedd o brofiad fel Prifathro ysgol gynradd leol, gan feithrin profiad yn y meysydd cyllid; newid; a rheoli pobl. Mae’n gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau’r Cyngor. 

Dawn Jones

(Aelod o’r Bwrdd wedi’i Enwebu gan yr Awdurdod Lleol):

Daeth Dawn yn Aelod o Fwrdd Adra yn 2022, ac mae’n aelod o’r Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau. Mae gan Dawn dros 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc, a’u teuluoedd. Mae hi yn Is-Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Maesincla, a Thrysorydd grŵp cymunedol Llygaid Maesincla. Yn ei rôl fel Cynghorydd, mae Dawn yn aelod o nifer o Bwyllgorau Cyngor Gwynedd.

A portrait of Deiniol Evans one of our board member

Deiniol Evans

(Aelod Bwrdd Adra)

Mae Deiniol yn aelod o’r Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau, a chyn hynny bu’n gwasanaethu ar is-gwmni Adra, Medra. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad proffesiynol amrywiol yn y diwydiant adeiladu, gyda 28 mlynedd yn y sectorau preifat, cyhoeddus a chymdeithasau tai ar lefel uwch reolwyr. Mae’n Syrfëwr Siartredig a chyn ei ymddeoliad, bu’n Gyfarwyddwr Datblygu a Gwasanaethau Technegol gyda Grŵp Tai Pennaf. Cyn ymuno â’r Grŵp yn 2003 ef oedd Cyfarwyddwr Datblygu a Gwasanaethau Technegol Cymdeithas Tai Gogledd Cymru.

 

A picture of Dafydd Edwards Board Member

Dafydd Edwards

(Aelod Annibynnol o’r Bwrdd’)

Ymunodd Dafydd â’r Bwrdd yn 2022,fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd.

Mae’n gyfrifydd cymwysedig ac wedi dal nifer o rolau strategol yng Nghyngor Gwynedd, gan gynnwys bod yn rhan o drafodaethau pan drosglwyddwyd stoc tai’r Cyngor yn 2010; a gwasanaethu fel Trysorydd am 19 mlynedd. Mae rolau eraill wedi cynnwys Cyfarwyddwr Cronfa Bensiwn Gwynedd; Swyddog Cyllid Statudol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; a Thrysorydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Huw Gareth Pritchard

(Aelod Annibynnol o’r Bwrdd): Mae Gareth yn eistedd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r PPTD Mae wedi ymddeol o Heddlu Gogledd Cymru ar ôl 34 mlynedd o wasanaeth – gan gynnwys fel Prif Swyddog. Yn ei waith roedd yn arwain ar brosiectau cenedlaethol, gan gynnwys yr iaith Gymraeg ar gyfer heddluoedd Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol ac yn wirfoddolwr Chwilio ac Achub. 

A picture of Sharyn WIlliams the board member

Sharyn Williams

(Aelod Tenant): Mae Sharyn yn eistedd ar y Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau a’r PPTD. Mae ganddi MA mewn Polisi Cymdeithasol ac Ymchwil Cymdeithasol ac wedi gweithio fel Hyfforddai Cynghori Gyrfaoedd. Mae Sharyn hefyd wedi gweithio i Brifysgol Bangor fel Swyddog Ymgysylltu a Thiwtor Cyswllt Myfyrwyr. Mae hi hefyd yn Arweinydd Uned ar gyfer Girlguiding Cymru.  

Gwen Crawford 

(Cyfetholedig)

Mae Gwen yn eistedd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r PPTD. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Busnes Newydd Cyfarwyddwr Dros Dro Eiddo a Lle yn Bolton at Home. Cyn hynny bu iddi ymgymryd â rolau Cyfarwyddo eraill gan gynnwys ar gyfer Adfywio a Datblygu a Gwasanaethau Cwsmer.  

 

Denise Stone

(Aelod Tenant) 

Mae Denise yn eistedd ar y Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau. Mae hi wedi gweithio mewn rolau rheoli mewn cartrefi gofal preswyl ac mewn caffi cymunedol, a chyn hynny roedd yn ddarlithydd mewn seicoleg, iechyd, gofal cymdeithasol a chwnsela.  

Will Nixon

(Aelod o fwrdd Adra )

Mae Will yn eistedd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r PPTD. Mae Will yn aelod o Sefydliad Siartredig Tai wedi iddo dreulio dros 30 mlynedd yn gweithio yn y proffesiwn. Mae ganddo brofiad o gyflwyno rhaglenni adfywio mawr, a rolau uwch o fewn polisi tai a rheoli tai. Yn fwy diweddar roedd Will yn Ddirprwy Brif Weithredwr Aspire Housing lle’r oedd hefyd yn Reolwr Gyfarwyddwr eu his-gwmni hyfforddi menter gymdeithasol. Mae’n Aelod Bwrdd Social Enterprise UK ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel Aelod Bwrdd Sefydliad Siartredig Tai a Byrddau Housemark. 

 

 

Y Bwrdd - Medra

 

Nigel Sinnett

(Cadeirydd Medra / Medra Board Member )

Mae Nigel yn ymgynghorydd eiddo a datblygu, ac yn Syrfewr Siartredig wrth ei alwedigaeth. Wedi cyfnod o 19 mlynedd yn gweithio i Grwp Ateb fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo daw a sgiliau gwerthfawr rheoli cyfleusterau ac ystadau, peirnianyddol a datblygu. Mae wedi gwasanaethu ar sawl grwpiau llywio Llywodraeth Cymru, ac yn gyn-Gadeirydd Fforwm Technegol Tai Cymunedol Cymru a Chadeirydd Grwp Gorllewin Cymru o’r RICS. Mae’n gefnogwr brwd o rygbi rhanbarthol, y celfyddydau ac yn Aelod Bwrdd o Theatr Torch, Aberdaugleddau.

 

head shot of rhys parry board member on adra blue background

Rhys Parry

Rhys Parry yw Cyfarwyddwr Adnoddau Adra a mae’n eistedd ar fwrdd Medra.

Mae Rhys wedi gweithio mewn swyddi cyllid am 30 mlynedd mewn nifer o sectorau amrywiol, gan gynnwys addysg uwch, llywodraeth leol, y sector dai ac i gwmnïau preifat. Cyn ymuno â Adra yn 2015, bu’n gweithio i Brifysgol Bangor am ddeng mlynedd.

Ar ôl derbyn gradd cyd-anrhydedd mewn Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth o Brifysgol Manceinion, cymhwysodd Rhys fel cyfrifydd. Mae’n aelod llawn o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA). Mae’n Gadeirydd y Llywodraethwyr ysgol gynradd leol, mae’n siaradwr Cymraeg, ac yn briod â dau o blant.

Bod yn aelod o’r Bwrdd

Mae bod yn Aelod o’r Bwrdd yn gofyn bod gan aelodau amser i’w roi sy’n cynnwys:

  • mynychu cyfarfodydd
  • digwyddiadau
  • hyfforddiant.

Roddir cefnogaeth i aelodau’r Bwrdd a gallent fanteisio ar gyfleoedd datblygu parhaus. Mae Adra bob amser yn awyddus i glywed gan rai sydd â diddordeb ymuno â’n Bwrdd.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch ag Aled Davies, Pennaeth Llywodraethu:

  • ebost: llywodraethu@adra.co.uk
  • ffôn:0300 123 8084

Rydym yn chwilio am aelodau Bwrdd newydd