Argyfwng costau byw – Yma i chi
Rydym ni gyd yn byw mewn cyfnod ansefydlog gyda chostau byw.
Mae’n gwbl naturiol i chi deimlo yn bryderus am y sefyllfa.
Dyma wybodaeth i’ch helpu.
Cofiwch fod ein tîm yma i’ch helpu a chynnig cyngor a chefnogaeth.
Poeni am eich sefyllfa ariannol?
Os ydych chi’n poeni am eich sefyllfa ariannol a ddim yn siwr sut ydych chi am allu fforddio talu eich biliau – mae cymorth ar gael.
Mae ein Tîm Rhent a Thîm Cymorth Tenantiaeth yma i’ch helpu ac i’ch cyfeirio at help gan eraill.
Cysylltwch â ni yn syth os:
- ydych yn poeni am eich sefyllfa ariannol
- ydych wedi colli eich gwaith
- yn rhagweld y byddwch methu talu eich biliau i gyd
Mae gan ein Tîm lawer iawn o brofiad a gwybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd o ffyrdd i ddatrys eich pryderon.
-
Wardeiniaid Ynni
Sut all ein Wardeiniaid Ynni eich helpu chi…
- eich helpu i ddefnyddio llai o egni adref
- egluro biliau
- egluro prisiau gwahanol
- eich helpu i chwilio am filiau rhatach gyda chwmniau egni a dŵr gwahanol
- eich helpu i newid cwmni egni
- trafod eich biliau gyda cwmniau egni
- eich helpu i wneud ceisiadau am grant
- dangos i chi sut mae defnyddio eich system wresogi yn effeithiol
-
Prosiect Sero Net Gwynedd
Mae Adra wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn cyllid o Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau allweddol megis DEG, Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd a nifer o fentrau cymunedol. Nod y prosiect yw helpu i gyrraedd targedau allyriadau carbon trwy godi ymwybyddiaeth, ôl-osod, ymgysylltu ac amlygu cyfleoedd gyrfa.
Yn benodol, bydd tîm o swyddogion ynni hyfforddedig yn gweithio o fewn cymunedau Gwynedd i helpu trigolion i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, helpu i leihau costau a chodi ymwybyddiaeth.
Byddwn hefyd yn darparu adroddiadau datgarboneiddio i nifer o hybiau cymunedol yng Ngwynedd ac yn cwblhau gwaith ôl-ffitio gyda gosod technolegau adnewyddadwy.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â amgylcheddol@adra.co.uk
-
Cael trafferth talu biliau
Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau gallwch dderbyn cyngor diduedd am ddim ar sut i gadw’n gynnes ac arbed arian yma:
-
Banciau Bwyd
Mae Banciau Bwyd ar draws Gwynedd yn darparu bocsys bwyd argyfwng i bobl a theuluoedd sydd mewn angen.
Os ydych chi angen y gwasanaeth cysylltwch â’ch Banc Bwyd lleol.
-
Cyngor a chymorth ariannol
Cyngor ar Bopeth
Elusen sy’n rhoi cyngor cyfrinachol am ddim i helpu pobl gyda materion cyfreithiol, dyledion, tai a llawer mwy.
Maent yma i’ch helpu.
Nid i’ch barnu.
Mae ganddynt flynyddoedd o brofiad. Rydym yn gweithio gyda Cyngor ar Bopeth yn aml i helpu cwsmeriaid gyda problemau ariannol.
Elusen Dyledion Stepchange
Mae Stepchange yn rhoi mwy o gyngor ar ddyledion ym Mhrydain na neb. Maent yn helpu cannoedd o filoedd o bobl i gymryd rheolaeth o’u harian bob blwyddyn.
Mae StepChange yn cynnig cyngor diduedd ar ddyledion, gwybodaeth am ddatrysiadau dyledion, rheoli a cynilo eich arian, beilïaid (bailifts), a mwy.
Mae eu gwasanaeth cyngor ar ddyledion am ddim hefyd yn gwbl hyblyg – gallwch gael gafael ar eu cymorth naill ai ar-lein, dros y ffôn, neu newidiwch rhwng y ddau.
(gwefan Saesneg yn unig)
-
Cymorth ariannol gan Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod a bob dim at ei gilydd mewn un lle i chi gael gwybod pa fath o gymorth sydd ar gael i chi ar faterion fel:
- Biliau Dŵr
- Biliau Nwy a Thrydan
- Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
- Banciau, cardiau credyd a benthyciadau
- Prydau ysgol am ddim
- Cymorth gofal plant
Mae’r wybodaeth yn llawn i’w gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
-
Croeso Cynnes
Croeso Cynnes
Y tŷ yn oer? Awydd sgwrs neu baned gynnes?
Mae nifer o leoliadau ar draws Gwynedd yn cynnig “Croeso Cynnes” i unrhyw un ddod i mewn am gysgod, sgwrs neu baned.
Cliciwch ar y map ddod o hyd i leoliad Croeso Cynnes agos i chi
Maw mwy o wybodaeth ar dudalen Cyngor Gwynedd.
Bydd lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd. Os ydych angen yr wybodaeth mewn fformat gwahanol cysylltwch â ni: croesocynnes@gwynedd.llyw.cymru