Lleihau eich biliau ac arbed egni
Os ydych chi’n gweld eich biliau egni chi rhy ddrud, gall ein Wardeiniaid Egni eich helpu chi am ddim:
-
i leihau eich biliau
-
i leihau faint o egni dachi’n ei ddefnyddio
Sut all ein Wardeiniaid Egni helpu chi
- eich helpu i ddefnyddio llai o egni adref
- egluro biliau
- egluro tariffs gwahanol
- eich helpu i chwilio am filiau rhatach gyda cwmniau gwahanol
- eich helpu i newid cwmni egni
- trafod eich biliau gyda cwmniau egni
- eich helpu i wneud ceisiadau am grant
- dangos i chi sut mae defnyddio eich system wresogi yn effeithiol
Cynlluniau arbed arian
Gall ein Wardeiniaid Egni eich helpu lenwi ffurflenni cais ar gyfer y cynlluniau yma:
- gostyngiad cartref cynnes
- grant Nyth
- cynllun cymorth Dwr Cymru
Gwneud apwyntiad gyda ein Wardeiniaid Egni
Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.
- E-bost: cymunedol@adra.co.uk
- Ffôn: 0300 123 8084
Newidiadau bach, arbedion mawr
Mae llawer o bethau allwch chi eu gwneud yn eich cartref i arbed arian a defnyddio llai o egni.
Rhowch gynnig ar y rhain, byddwch yn gweld y gwahaniaeth yn eich banc!
Ychydig o newidiadau syml ydy’r rhain.
Gall ein Wardeiniaid Egni helpu gyda cymaint mwy.
-
Dŵr
- rhowch y tap i ffwrdd tra’n golchi eich dannedd
- cymerwch gawod dim bath, gall cawod 5 munud ddefnyddio llai o ddwr na llenwi bath
- rhowch botel blastig llawn yn seston eich toilet i leihau faint o ddwr dachi’n ddefnyddio
- peidiwch a rhoi eich peiriant golchi dillad neu lestri ymlaen yn hanner llawn
- cysylltwch a ni cyn gynted ag y gwelwch fod dwr yn gollwng yn eich cartref
- prynwch storfa dwr i gasglu dwr glaw, gallwch ei ddefnyddio i roi dwr i’ch blodau yn hytrach na defnyddio eich tap
-
Trydan
- newid i fylbs arbed egni
- golchi eich dillad ar 30 gradd
- gostwng tymheredd eich oergell
- cau y lleni yn y Gaeaf, mae hyn y natal drafft a chadw gwres yn eich cartref
- gwneud panad? peidiwch a llenwi y tecell i wneud un panad, dim ond berwi digon i un
- gall ddadmar eich rhewgell dwy waith y flwyddyn leihau eich biliau o 10%
- defnyddiwch eich lein ddillad i sychu dillad yn lle defnyddio y tymbl
- gall rhoi golau ymlaen ac i ffwrdd yn aml ddefnyddio mwy o drydan
- rhowch eich teledu i ffwrdd yn llwyr, mae gadael y teledu yn rhanol ymlaen yn defnyddio trydan