Cartrefi Clyfar

Cynllun sydd yn ceisio rhoi annibynniaeth i bobl fregus fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.

Efallai eich bod yn poeni am Taid neu Nain, Dad, Mam neu ffrind yn byw eu hunain, neu eu bod wedi cael ambell i godwm yn ddiweddar.

Byddai cynllun Cartrefi Clyfar yn gallu rhoi tawelwch meddwl i chi eu bod yn ddiogel.

Yn dilyn treial bychan llwyddiannus rydym yn ehangu ein cynllun i osod synhwyrau mewn cartrefi i gefnogi pobl.

Byddwn yn gosod synhwyrau i gasglu data megis:

  • os yw rhywun yn dangos arwyddion cynnar o ddryswch meddwl neu golli cof. Gellir gosod synhwyrydd drysau i dawelu meddwl perthynasau eu bod yn ddiogel yn eu cartref ac nad ydyn nhw wedi gadael yr eiddo.
  • gellir gosod synhwyrau gwres i ddangos eu bod yn ddiogel ac yn gynnes yn eu cartref ac nad ydynt mewn perygl o ddioddef yn ddiangen o oerfel neu hyd yn oed hyperthermia
  • gallai synhwyrau gasglu gwybodaeth am batrwm dyddiol unigolyn. Os na chaiff y goleuadau eu troi ymlaen gyda’r nos, er enghraifft, gallai ddangos patrwm bod yr unigolion yn poeni â chost ariannol trydan neu nad ydyn nhw yn yr ystafell arferol, efallai eu bod nhw wedi disgyn, eu bod yn y tywyllwch ac nad ydyn nhw’n gallu i alw am help.

Dyma ychydig o enghreifftiau lle gallai cynllun arloesol fel hwn fod o fudd. Mae yna lawer o synhwyrau eraill y gellir eu gosod. Gyda chymorth staff a thrigolion a fyddai’n barod i gymryd rhan yn y cynllun newydd cyffrous hwn, rydym yn gobeithio datblygu system ymhellach y gellid ei theilwra i anghenion yr unigolyn.

Costau

Nid oes unrhyw gostau ar gyfer y cynllun yma ar hyn o bryd.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r synhwyrau yn defnyddio camerâu na offer recordio sain.

Diddordeb?

Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn neu ddiddordeb cymryd rhan yn yn Cynllun:

  • ebost: haydn.maxwell@adra.co.uk
  • ffôn: 0300 123 8084