Fflatiau gwagio yn gyfan gwbl

Mewn fflatiau fel hyn mae system ddarganfod tân wedi’i gosod yn yr ardal gymunedol, wedi’i gysylltu i bob fflat ac mae ganddo banel larwm tân wedi’i leoli yn yr ardal gymunedol.

Tân tu mewn i’ch fflat neu’r larwm tân gymunedol yn canu

  • Ewch allan drwy’r ffordd arferol – peidiwch â defnyddio’r lifft os oes rhai wedi’u gosod.
  • Peidiwch â gwastraffu amser yn gweld beth sydd wedi digwydd neu’n achub pethau gwerthfawr – cofiwch, ewch allan, arhoswch allan a chaewch y drws.
  • Symudwch mor gyflym a diogel ag y gallwch i fynd allan o’r adeilad.
  • Caewch y drws i arafu lledaeniad y tân a’r mwg.
  • Ffoniwch 999 cyn gynted ag y mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Ewch i’r “Man Ymgynnull Tân” dynodedig a disgwyl i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd.

Byddwch yn gweld Rhybudd Tân ar holl waliau ardaloedd cymunedol.

Cymerwch amser i ddarllen a deall cynnwys y rhybudd, gwybod ble mae eich “Man Ymgynnull” a gwneud yn siŵr bod y man cymunol bob amser yn cael ei gadw’n glir.