Cymuned Cricieth yn codi calon drwy greu enfys

Mae hogyn saith oed o Gricieth wedi llwyddo i godi calonnau pobl drwy gyfnod y clo drwy greu darn o gelf i’w osod yn y dref yn barhaol.

Syniad Llyr oedd creu enfys allan o gerrig i’w osod ar fynedfa ystad tai Tŷ’n Rhos – gan wahodd pobl a phlant o bob oed i beintio eu cerrig er mwyn creu enfys liwgar, obeithiol, yng nghanol cyfnod heriol ac anodd i lawer.

Cysylltodd Natasha, sy’n byw yn lleol yng Nghricieth, hefo ni i ofyn a fyddai modd i ni fod yn rhan o’r ymdrech a helpu. Trefnodd swyddogion Adra bod un o gwmnïau lleol  sy’n gwneud gwaith contractio i Adra, yn gosod slab i osod yr enfys am ddim er mwyn iddo fod yn atgof parhaol o’r cyfnod a’r gobaith ac y daw eto haul ar fryn.

Bydd yr enfys yn cael ei osod ar ddarn gwyrdd wrth y parc chwarae yn Tŷ’n Rhos, Cricieth. Rydan ni yn Adra hefyd wedi cymryd rhan wrth baentio ein logo ar garreg i gael bod yn rhan o’r enfys.

Dywedodd Arwyn Roberts, ein Rheolwr Cynorthwyor Gwasanaethau Bro:

“Mae’n wych i weld cymunedau yn bod yn greadigol a llawn gobaith gan drefnu gweithgareddau fel hyn i ddod a pawb at ei gilydd. Dwi’n gwybod fod y gymuned yng Nghricieth wedi trefnu dipyn o ddigwyddiadau creadigol a chymunedol o fewn y dref yn barod a braf ydi gweld pobl ifanc yn Tŷ’n Rhos yn cyfrannu at hyn.

“Rydan ni hefyd yn hapus iawn ein bod ni yn Adra wedi gallu bod o help a wedi cyfrannu er mwyn gwneud yn siŵr bod yr enfys yn dod yn furlun parhaol yma yn y gymuned .”

Dywedodd Natasha Evans, aelod o’r gymuned a gysylltodd hefo ni:

“Rydw i mor falch o fod yn rhan o’r weithgaredd gymunedol yma a bod yn rhan o gymuned sy’n dod at ei gilydd yn ystod amser heriol.

“Diolch i Llyr a ddaeth â’r syniad i ni ac i bawb am neud hyn yn bosib.”