Cyrraedd rhestr fer Gwobrau Northen Housing am ein ymrwymiad carbon sero-net

Rydym wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer Gwobr Northern Housing i nodi ein ymrwymiad i dorri allyriadau carbon o’n cartrefi i sero-net erbyn 2030 i fynd ir afael â newid hinsawdd.   

Lansiom ein strategaeth datgarboneiddio ar y cyd hefo Gweinidog Tai Cymru, Julie James. Rydym nawr ar restr fer yn y categori Cynllun Gorau i Leihau Carbon yng ngwobrau Northen Housing. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Fai 13.     

Rydym yn arwain y gwaith yma gyda Llywodraeth Cymru. Maen un or cymdeithasau tai cyntaf yn y DU i ymrwymo i ddatgarboneiddio ei gartrefi, gan ddod ag adnoddau ynghyd fel rhan o Grŵp Cydweithredol Gogledd Cymru i gynorthwyo ag adferiad economaidd gwyrdd yr ardal, ac i gyflawni effaith gwir a pharhaol i Agenda argyfwng hinsawdd.   

Gyda chefnogaeth Cronfa Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, rydym wedi cychwyn ein peilot cychwynnol i ôl-osod 80 o gartrefi, datblygu pasbort sero-net ar gyfer bob cartref, teilwra ein dull i gyflawni pasbort pwrpasol i ddatgarboneiddio. Yr amcan ydi y bydd y bwlch yn y cyllid ar gyfer ôl-osod ein holl stoc yn £120 miliwn. Bydd y gwaith yn dechrau dros y tair blynedd nesaf gyda chefnogaeth Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.  

Rydym yn targedu ein stoc bresennol syn perfformio waethaf o ran ynni, gan ddefnyddio dull ffabrig yn gyntaf i ddatgarboneiddio; mae ein tîm Asedau wedi canolbwyntio ar inswleiddiad wal allanol, gan gwblhau gwaith ar 238 o’n cartrefi, gan alluogi arbediad carbon o 15% ar gyfartaledd fesul tŷ.  

Mae ein tîm Asedau yn monitro data tymheredd, lleithder, dŵr poeth a thrydan bob cartref, gan ddefnyddio technoleg Tai Clyfar ac yn cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe.   

Mae ein strategaeth ddatgarboneiddio yn gosod ein uchelgais. Mae Cynllun Rheoli Carbon yn gosod y camau gweithredu, gan alluogi dull cwmni cyfan tuag at ddatgarboneiddio ar gyfer adeiladau or newydd, ôl-osod, fflyd, swyddfeydd, ynni, tir, addysg, hyfforddiant a sgiliau.  

Dywedodd Ffrancon Williams, ein Prif Weithredwr: Rydym yn hapus dros ben ein bod ar restr fer Gwobrau Northern Housing ar gyfer y dull yr ydym wedii fabwysiadu i ddatgarboneiddio ein cartrefi.  Yn Adra, rydym yn ystyried bod lleihau defnydd o ynni yn allweddol i helpu i leihau costau rhedeg cartrefi ein preswylwyr, gan fynd ir afael gyda thlodi tanwydd.  Mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth.” 

 Edric Jones oedd y tenant cyntaf i symud iw stad ym Mangor yn 1972 ac mae gwaith wedii wneud iw gartref fel rhan o beilot ôl-osod cychwynnol Adra, gan gynnwys to newydd, inswleiddiad to ac inaswleiddiad wal allanol, gyda rendr dash.   Dywedodd:  Rwyf yn hapus iawn gydar ffordd y mae fy nghartref yn edrych rŵan; maen llawer cynhesach ar ôl ir gwaith gael ei wneud.  

Dywedodd Sarah Schofied, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau:  “Rydym yn dysgu fel mae pawb arall yn dysgu ac yn dod â’r wybodaeth at ei gilydd; mae dyhead i gyrraedd y nod a o gael cartrefi sero-net.  Drwy weithio fel tîm byddwn yn symud yr Agenda cynaliadwyedd ymlaen, a hynny drwy gydweithio.” 

Ychwanegodd Mathew Gosset, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau:  Bydd datgarboneiddio stoc yn heriol iawn a bydd yn newid y ffordd yr ydym yn draddodiadol wedi bod cynhyrchu, caffael a chyflawni ein cynllun buddsoddi.  Yn ddiweddar, rydym wedi adolygu ein strategaeth rheoli asedau i gyd-fynd gydan strategaeth datgarboneiddio, gan sicrhau ein bod yn barod i fynd i’r afael â’r her fydd yn wynebur sector dai yn y dyfodol.  

Am ymholiadaur wasg neur cyfryngau, cysylltwch efo:  Elin Heledd Rowlands, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Adra: elin.rowlands@adra.co.uk