Cwyn Ffurfiol

Os ydych yn anhapus gyda’n gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn ganddom ni gallwch gysylltu â ni.

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod y broblem yn cael ei datrys.

Os ydych wedi cysylltu â ni sawl gwaith a mae’r broblem dal heb ei datrys, gallwch anfon cwyn ffurfiol atom.

Cyflwyno cwyn ffurfiol

 

Beth yw ‘cwyn’

Mae cwyn yn golygu fod cwsmer i ni yn anhapus gyda’r gwasanaeth maent wedi ei dderbyn gennym ni neu un o’n contractwyr.
Mae hyn yn cynnwys:

  • rydym wedi gwneud rhywbeth na ddylem ei wneud
  • nid ydym wedi gwneud rhywbeth y dylem fod wedi ei wneud
  • pan mae ymddygiad aelod o staff  (neu un o’n contractwyr) yn amhriodol
  • nid ydym wedi darparu gwasanaeth i’r ansawdd, lefel diogelwch , amleder neu gost disgwyliedig
  • roedd ein proses penderfynu yn ddiffygiol
  • rydym wedi gweithio y tu allan i bolisi neu brotocol

Fel arfer rhaid i chi roi gwybod i ni am gwyno fewn chwe mis i’r digwyddiad er mwyn i ni allu ymchwilio i’r broblem tra mae’r achos dal yn fyw ym meddyliau pawb.

Mae rhai eithriadau ble gallwn edrych ar achosion ar ôl chwe mis.

Darllen ein Polisi Cwynion

Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • Byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Bydd ein Cydlynydd Gwasanaeth Cwsmer (Cwynion)  yn cysylltu â chi i drafod eich cwyn ymheallch os oes angen.