Adra Staff outside Ty Coch office Bangor

Derbyn cydnabyddiaeth am wasanaeth cwsmer ardderchog

Fel cwmni sy’n gwerthfawrogi ein cwsmeriaid, rydym yn falch iawn o allu dweud ein bod wedi derbyn Achrediad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer yn dilyn asesiad allanol gan y sefydliad Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer.

Rydyn ni’n gwybod bod gennym waith i’w wneud o hyd a gallwn wella ymhellach ond mae mor gadarnhaol cael cydnabyddiaeth am y pethau yr ydym ni’n eu gwneud yma yn Adra a’r gwaith caled yr ydym yn cyflawni er mwyn cyfarch anghenion ein cwsmeriaid. 

Dywedodd Hugh Keachie, Prif Asesydd Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer: 

“Unwaith eto mae Adra wedi profi i fod yn darparu gwasanaeth ardderchog i’w cwsmeriaid. Wrth i mi ymweld â chwsmeriaid yn eu cartrefi eu hunain eleni, roedd hi’n amlwg eu bod nhw wrth eu boddau gyda’r gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn.  O un i un yn rhannu gwybodaeth i waith trwsio a chynnal a chadw. Eleni, profodd Adra eu penderfyniad eto i ddarparu gwasanaeth o safon i gwsmeriaid a rhoddodd dystiolaeth gref i alluogi pum elfen Cydymffurfio Uwch a dylai bawb o fewn y sefydliad fod yn falch iawn o’r cyflawniad hwn.” 

Rydym yn falch iawn bod yr aseswr wedi cytuno y dylai 5 o’r meini prawf a gyflwynir dderbyn cydymffurfiaeth uwch. Mae hyn yn golygu lot gan ei fod yn dangos ein bod yn mynd y filltir ychwanegol i’n cwsmeriaid. Rydym wastad yn ceisio mynd y filltir ychwanegol, ond mae cael asesydd allanol yn cadarnhau hyn hefyd yn ein annog ymhellach.

Rydym yn deall bod gennym dal waith i’w wneud, ac yn eich annog chi, ein cwsmeriaid i gysylltu hefo ni a dod aton ni os oes gennych broblem sydd angen ei ddatrys. Gallwch wneud hyn drwy ein ebostio ymholiadau@adra.co.uk neu ffonio 0300 123 8084.