An image from the Plas Newydd development.

Dewch i drwsio gyda Adra

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru an cynnal ffair swyddi er mwyn hyrwyddo hyd at 20 o swyddi sgiliedig newydd fydd yn cael eu creu dros y flwyddyn nesaf.

Bydd y Ffair Swyddi yn cael ei chynnal yn Nhy Gwyrddfai ar Stad Ddiwydiannol Penygroes (yr hen ffatri Northwood) ddydd Mercher, Ebrill 26 rhwng 4pm a 7pm

Bydd staff o Tim Trwsio Adra (contractwyr mewnol y cwmni) yn hyrwyddo swyddi sgiliedig ym myd adeiladwaith a chynnal a chadw tai ac hefyd yn gwahodd is-gontractwyr lleol bychan.

Dywedodd Paul Painter, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynnal a Chadw gyda Adra: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni hyrwyddo’r cyfleoedd fydd ar gael o fewn Adra dros y flwyddyn nesaf. Rydym yn gwmni sy’n tyfu ac felly mae’r galw am sgiliau ymarferol o fewn y cwmni yn cynyddu.

“Bydd cyfle i siarad gyda staff Adra am y cyfleoedd sydd ar gael a gall pobl fynegi diddordeb mewn derbyn gwybodaeth pan fyddwn yn barod i hysbysebu’r swyddi.

“Mae’r ffair yn cael ei chynnal yn Nhy Gwyrddai, sef ein hwb datgarboneiddio newydd. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn datblygu’r safle ymhellach a chreu podiau hyfforddiant, mewn partneriaeth a Grwp Llandrillio Menai a Phrifysgol Bangor.

“Byddwn yn hyfforddi staff ein hunain, myfyrwyr a thimau cynnal a chadw mewn sgiliau fydd eu hangen er mwyn i ni ddatgarboneiddio ein tai ac mi fydd yn gyfleuster gwych fydd nid yn unig yn cynnig hyfforddiant ond yn creu gweithwyr y dyfodol, budsoddi arian yn ein cymunedau a chadw’r bunt yn lleol. Mae hi’n gyfnod hynod o gyffrous yn hanes Ty Gwyrddfai”.