Newidiadau a gwaith adeiladu
I wneud cais am addasiadau cwblhewch y ffurflen gais yma
Math o waith mae angen caniatâd ysgrifenedig cyn cychwyn
I gael caniatâd rhaid rhoi rhybudd i ni.
- adeiladu neu dynnu sied, tŷ gwydr, wal neu ffens yn yr ardd
- adeiladu lôn fach neu bafin o flaen eich cartref
- gosod soser lloeren
- gosod system wresogi (bydd systemau sy’n defnyddio mwy na un math o danwydd yn cael eu gwrthod)
- gwaith trydanol
- unrhyw waith i strwythur yr adeilad, addasu neu tynnu waliau tu mewn
- ychwanegu neu newid cypyrddau yn y gegin
- gosod to ar ochr eich cartref (lean-to)
- gosod llawr pren
- newid eich atig i fod yn ystafell
- gosod camerau CCTV
Gall rhai rhesymau am wrthod cais cynnwys:
- os nad oes ganddoch Gytundeb tenantiaeth Aswiriedig (nad yw’n fyrddaliol). Mae hyn fel arfer yn digwydd ar ôl bod yn denant i ni am dros 12 mis
- os nad yw’r gwaith papur cywir ar gael, sef caniatâd cynllunio neu caniatâd adeiladu
- os yw’r newidiadau rydych yn eu cynnig yn debygol o greu trafferthion cynnal a chadw yn y dyfodol
- os oes gennych ddyledion efo ni
Ni fyddwn yn gwrthod rhoi caniatâd heb reswm da.
Ond weithiau efallai bydd angen i’r gwaith gyrraedd rhai safonau.
Sut i wneud cais
- llenwi ffurflen gais
- talu unrhyw ddyledion
- byddwn yn asesu eich cais ac yn cysylltu gyda chi efo’r penderfyniad yn ysgrifenedig
Bydd gwneud gwaith heb ein caniatâd ni neu beidio â chadw at amodau’r caniatâd yn torri eich tenantiaeth.
Gwaith adeiladu drws nesaf i’n cartrefi
Os ydy eich tŷ chi drws nesa neu’n sownd i un o’n cartrefi, bydd angen i chi roi rhybudd i ni cyn i chi gychwyn ar y gwaith.
Os ydych yn bwriadu tyllu i adeiladu sylfaen ac mae’r eiddo…
- o fewn 3 medr i’n cartrefi ni
- o fewn 6 medr i’n cartrefi ni a byddai’r gwaith yn effeithio ein cartrefi drwy dynnu llinell 45 gradd o’r sylfaen newydd.
Math o waith sydd angen rybudd
- torri mewn i wal i osod trawst, er enghraifft wrth newid atig yn ystafell wely
- codi uchder wal
- cynyddu trwch wal
- gosod cwrs lleithder
- gosod rhywbeth i gefnogi wal sydd rhwng dau dŷ
- dymchwel ac ail godi wal rhwng dau dŷ
- gwneud gwaith ar simnai sydd rhwng dau dŷ
- gwneud gwaith ar do rhwng dau dŷ sydd yn cyffwrdd
- adeiladu estyniad
Codi wal neu osod ffens rhwng dau dŷ
Sut i roi rybudd
- gosod silffoedd ar waliau
- ail osod socedi trydan
- ail blastro
Sut i roi rhybudd
Mae’n syniad trafod gyda ni cyn rhoi rhybudd.
Cysylltwch â ni i drafod gyda un o’n syrfewyr i drafod eich syniadau.
Byddwch angen anfon rhybudd ysgrifenedig atom.
Dylai’r rhybudd gynnwys:
- eich enw a chyfeiriad
- cyfeiriad yr adeiladu lle bydd y gwaith yn cael ei wneud
- disgrifiad llawn o’r gwaith, gyda llun os yn bosib
- dyddiad cychwyn y gwaith
Bydd y rhybudd yn ddilys am flwyddyn.
Byddwn yn ateb o fewn 14 diwrnod.