Prydleswyr

Mae prydles yn gytundeb gyfreithiol gymhleth sy’n nodi hawliau a goblygiadau’r prydleswr a’r rhydd- ddaliwr (Adra).

 

Manylion eich prydles chi

Mae eich prydles yn fath o denantiaeth sy’n eich caniatáu i fyw yn eich cartref am nifer penodol o flynyddoedd. Bydd hyn yn cael ei ddiffinio yn y brydles fel ‘y cyfnod’. Bydd y cyfnod yn cychwyn pan fydd yr eiddo wedi ei werthu yn wreiddiol. Fel arfer, mae’n gyfnod o 125 mlynedd. Edrychwch ar eich prydles i weld beth yw hyd eich prydles chi. Os ydych wedi prynu’r eiddo ar y farchnad agored, bydd y cyfnod yn weithredol ers gwerthu’r eiddo yn wreiddiol.

Mae nifer o brydlesau gwahanol ar gael, felly mae’n bwysig eich bod yn deall beth sydd wedi ei amlinellu yn eich prydles chi.

Mae copi o’ch prydles ar gael yma gan Swyddfa’r Gofrestrfa Tir am ffi.

Os nad ydych yn dallt eich prydles, rydym yn argymmell eich bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.

Darllenwch ein Llawlyfr Prydleswyr

Mae yna wybodaeth sylweddol a chyngor ar gael hefyd gan y Gwasanaeth Cynghori Prydles.

  • Tâl Gwasanaeth

    Beth yw Tâl Gwasanaeth?


    Tâl am wasanaeth yw eich rhan chi o’r costau am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn eich bloc a/neu stad. Mae posib adennill y taliadau o dan delerau eich prydles a rhaid iddo gael ei dalu gennych chi, y prydleswr.

    Bydd anfonebau tâl am wasanaeth yn cael eu cyfrifo ar sail amcangyfrif ar gyfer y flwyddyn gydag addasiad yn cael ei wneud ar gyfer y gwahaniaeth rhwng cost oedd wedi ei amcangyfrif ar gyfer y flwyddyn flaenorol a’r gwir gost.

    Mae’r gwasanaethau y byddwch yn talu amdanynt yn ddibynnol ar leoliad eich eiddo a’r gwasanaethau sydd ar gael yn yr adeilad.

    Mae’r gwasanaethau y gallwn godi tâl amdanynt a’r rhan y gallwn godi amdano wedi eu hamlinellu yn eich prydles.

     

    Disgrifiad o Dâl am Wasanaeth

    Dyma enghreifftiau gwahanol o dâl am wasanaeth a all ymddangos ar eich anfoneb. Nid yw’r rhain ar bob safle. Dylech fod yn ymwybodol o ba wasanaethau sydd ar eich safle chi.

    • yswiriant yr adeilad
    • gwasanaethau glanhau
    • trydan
    • torri glaswellt a chynnal a chadw tir
    • rheoli diogelwch stad

    Os ydych yn cael y gwasanaethau uchod ac yn anhapus am unrhyw reswm, cysylltwch gyda ni i drafod eich pryderon.

     

    Cynnal a Chadw


    Efallai y bydd tâl am wasanaeth cynnal a chadw ar eich anfoneb. Mae hwn yn amrywio a chaiff ei gyfrifo yn unol â chostau’r gwaith trwsio sydd wedi ei wneud i’r bloc neu fan cyffredin.

    Gallwn ad-ennill costau cynnal a chadw o dan delerau’r brydles. Cyfeiriwch at eich prydles am fwy o fanylion.

  • Gwelliannau ac addasiadau i'ch cartref

    Fel prydleswr, bydd yr wybodaeth berthnasol am ofyn caniatâd i wneud gwelliannau neu addasiadau i’ch cartref yn cael ei amlinellu yn eich prydles. Ni fydd pob prydles yn caniatáu gwelliannau ac addasiadau, a pan fydd caniatâd yn bodoli bydd angen i chi gael caniatâd gan Adra.

     

    Gwelliannau ac addasiadau bychain

    Yn gyffredinol, ni fydd angen i brydleswyr ofyn am ganiatâd i wneud gwelliannau bychain fel addurno, rhoi silffoedd neu luniau ar waliau ac ati.

     

    Gwelliannau ac addasiadau mawr

    Pan fo’r brydles yn caniatáu i rywun wneud gwelliannau ac addasiadau, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi yn y lle cyntaf yn cael caniatâd ysgrifenedig gan Adra cyn gwneud unrhyw waith gwella neu addasiadau mawr i’ch cartref.

    Bydd angen i chi gwblhau ffurflen ac unwaith bydd y ffurflen wedi ei chyflwyno, bydd eich cais a phrydles yn cael eu hadolygu a byddwn yn gadael chi wybod beth yw’r penderfyniad.

  • Gwaith Sylweddol

    Gwaith sylweddol yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio lle bydd gwaith i floc yn costio mwy na £250. Mewn rhai achosion, gall y costau fod yn uwch.

    Gall hyn fod yn waith sydd angen ei wneud er mwyn cynnal a chadw’r eiddo. Lle mae’r gwaith sylweddol yn cyrraedd y trothwy ariannol sefydlog, byddwn yn ymgynghori efo chi a bydd angen i chi gyfrannu at y costau hyn yn unol â thelerau eich prydles.

    Gall gwaith sylweddol gynnwys:

    • gwaith toi
    • man cyffredin
    • gwaith brics allanol neu waith blociau
    • soffits
    • ffasgau
    • gwaith gwter

    Pryd byddaf yn cael anfoneb am y gwaith?

    Byddwch yn cael anfoneb am gost y gwaith ar ôl cwblhau’r gwaith ac wedi i’r cyfrifon terfynol gael eu hadolygu. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn dymuno gyrru anfoneb cyn i’r gwaith ddod i ben e.e. prosiectau hirach na 12 mis.

    Byddwch yn cael anfoneb am waith sylweddol a llythyr eglurhaol a chopi o grynodeb o’ch hawliau a goblygiadau, dadansoddiad o’r costau a chopi o’r opsiynau talu.

    Os bydd angen addasu’r anfoneb am unrhyw reswm, byddwch yn cael anfoneb wedi ei adolygu neu nodyn credyd.

     

    Pryd fydd disgwyl i mi dalu am y gwaith yma?

    Ar ôl i chi gael yr anfoneb, bydd disgwyl i chi gysylltu efo ni a threfnu taliad o fewn 30 diwrnod o’r anfoneb. Bydd aelod o’r Adran Gyllid ar gael i drafod manylion opsiynau talu amrywiol sydd ar gael.

     

    Talu eich anfoneb

    Trefnwch i dalu’r anfoneb o fewn 30 diwrnod o’i dderbyn.

    Dyma’r opsiynau talu sydd ar gael:

    • taliad llawn o fewn 30 diwrnod – Bydd Prydleswyr sy’n talu’r swm yn llawn o fewn 30 diwrnod o’r anfoneb (yn ddibynnol ar nad oes ganddynt ôl-ddyledion ar eu Cyfrif Tâl am Wasanaeth arferol) yn cael lleihad o 5% yn y gost
    • taliad llawn o fewn 12 mis – Gall cyfanswm cost y gwaith gael ei rannu ar draws 12 mis heb log (nid yw’n cynnwys 5% o leihad yn y gost)
    • benthyciadau Gorfodol Gwaith Sylweddol – Efallai y bydd Prydleswyr yn gymwys i gael benthyciad gan Lywodraeth Cymru er mwyn eu cynorthwyo i dalu biliau mawr am Dâl Gwasanaeth. Os yw prydleswyr yn cwrdd â’r amodau cymhwyso, byddwn yn dweud wrthynt am eu hawl i gael benthyciad a bydd yn cyfeirio prydleswyr at Lywodraeth Cymru
    • prynu’n ôl – Bydd prynu eiddo ar brydles yn ôl yn cael ei wneud wrth ein disgresiwn. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol. Bydd rhan y Prydleswyr o’r Gwaith Sylweddol yn cael ei dynnu o bris sy’n cael ei gytuno wrth werthu, yn ogystal a unrhyw ôl-ddyled ad-daladwy neu tâl am wasanaeth.

    Sut dwi’n talu?

    Gallwch dalu eich anfoneb drwy:

    • creu archeb sefydlog yn y banc
    • siec yn daladwy i Adra Tai Cyfyngedig
    • talu mewn cangen Barclays
    • trosglwyddiad banc ar-lein

    Mae gan y ‘Leasehold Advisory Service’ llawer o wybodaeth sy’n ymwneud a Gwaith Sylweddol a’r broses Ymgynghori Adran 20.

    Mwy o wybodaeth yma.