Grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr Gwynedd yn derbyn offer PPE wrth i Adra a Chyngor Gwynedd gydweithio

Yr wythnos hon bydd bron i 1000 o wirfoddolwyr led-led Gwynedd yn derbyn cyfarpar diogelu personol (PPE) diolch i gydweithio gan sefydliadau’r sir.

Bydd y gwirfoddolwyr yn derbyn yr offer gan Cyngor Gwynedd, a fydd yn cael eu dosbarthu ar hyd y sir gan ein gweithwyr ni, sef darparwr tai yng Ngwynedd a gogledd Cymru, er mwyn helpu gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol Gwynedd yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws.

Mae diffyg cyfarpar diogelu personol  i weithwyr iechyd a gofal wedi bod yn her amlwg iawn yn ystod y cyfnod yma a’r galw am yr offer PPE yma’n cynyddu o hyd.

Mae cannoedd o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol hefyd yn gweithio yn y cymunedau, yn sicrhau bod pobl bregus yn derbyn cefnogaeth a chymorth. Mae angen y cyfarpar diogelu personol ar wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol hefyd, a dyma pam ydan ni a Chyngor Gwynedd yn cydweithio er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn derbyn yr offer angenrheidiol.

Mae grwpiau cyfaill wedi cael eu creu ar hyd a lled Gwynedd ers cychwyn yr argyfwng, gydag unigolion o bob oed yn gwirfoddoli eu hamser i wneud pob math o gymwynasau i’r trigolion sy’n hunan ynysu yn eu bro.

Meddai’r Cynghorydd Dilwyn Morgan, Cadeirydd y grŵp Cyswllt Trydydd Sector yng Ngwynedd: “Mae dros 70 o grwpiau cymorth wedi eu sefydlu ar draws y sir, a chan fod cymaint o bobl wedi hunan ynysu, ac yn fregus, mae’r grwpiau yma’n cynnig cefnogaeth a charedigrwydd mewn amgylchiadau anodd iawn.”

Mae’r grwpiau cyfaill yma’n medru danfon siopa, casglu meddyginiaeth, neu hyd yn oed mynd a’r ci am dro, a hynny o fewn eu milltir sgwâr. Ond gan fod offer diogelwch fel ‘sanitisers’ llaw, a menyg wedi bod yn brin, a’r grwpiau gwirfoddol yma’n gweithredu heb gyllid, mae pryder cynyddol wedi codi ynglŷn â’r sefyllfa.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Mae’n swyddogion ni mewn cyswllt rheolaidd efo cydlynwyr y grwpiau lleol yma i gynnig cefnogaeth iddyn nhw, ac un peth sy’n codi dro ar ôl tro yw’r offer PPE.

“Mae na brinder cyffredinol wedi bod, ond bellach ryda ni wedi sicrhau cyflenwad o fenyg a ‘sanitisers’ llaw i’w dosbarthu i’r grwpiau cyfaill yn y gymuned yr wythnos hon. Mae grantiau Covid-19 hefyd ar gael erbyn hyn ar gyfer prynu offer ac ati, ac gallwn helpu’r grwpiau i wneud ceisiadau am arian i brynu mwy o offer maes o law.”

Rydan ni a’r Cyngor edi bod yn cydweithio er mwyn dosbarthu’r offer PPE, a thra bod y Cyngor yn prynu, a storio’r offer, rydan ni wedi cynnig rhoi amser ein staff a’n faniau i ddosbarthu i 30 o wahanol leoedd i 30 grŵp cymuendol  ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Gwynedd, Cai Larsen, sydd hefyd yn aelod Bwrdd Adra:

“Dwi’n falch iawn o weld dau sefydliad yng Ngwynedd, sef y Cyngor ac Adra, yn cydweithio er budd a lles bobl Gwynedd ac er mwyn sicrhau diogelwch gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn ein Sir, mae’n holl bwysig bod y bobl sy’n cyfrannu mor helaeth yn y gymuned, yn cael yr offer angenrheidiol i’w cadw yn ddiogel. A da yw gweld dau sefydliad yn tynnu at ei gilydd fel hyn.”

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:

“Mae’r gwaith mae’r gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol yma yn ei wneud yn amhrisiadwy i’n tenantiaid ni. Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth, ac yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid cymunedol yng Ngwynedd i ddiwallu unrhyw anghenion cefnogaeth ychwanegol mae’r gwirfoddolwyr eu h angen. Pleser ydi bod Adra yn cydweithio gyda’r Cyngor i helpu yn yr achos yma.”

Mae mwy o wybodaeth am y grantiau a’r cymorth sydd ar gael ar we-fan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/HelpCymunedol, ac ar ein gwefan ni.