Pupils of Academi Adra course in our call centre

Gwahanol ffyrdd o gysylltu hefo ni er mwyn i chi gael ymateb cyflymach i’ch ymholiadau

Ydych chi’n awyddus i gael ymateb cyflymach pan ydych chi’n cysylltu hefo ni? Dyma ychydig o ffyrdd gwahanol i gysylltu hefo ni.  

Oeddech chi’n gwybod? 

Oeddech chi’n gwybod mai’r diwrnodau prysuraf ar ein ffonau yn y ganolfan gyswllt ydi dydd Llun a dydd Mawrth? O ganlyniad, rydych chi’n llawer mwy tebygol o ddod drwodd atom yn gynt drwy gysylltu hefo ni rhwng dydd Mercher a Gwener.  

Oeddech chi’n gwybod fod gennym wasanaeth cysylltu yn ôl? Hynny ydi, os ydych yn disgwyl am ddipyn o amser i’ch galwad ffôn fynd drwodd, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cysylltu yn ôl, lle rydych yn dewis opsiwn i ni ffonio chi yn ôl ond dydach chi ddim yn colli’ch lle yn y ciw, ac mae’n rhyddhau amser i chi wneud pethau eraill. 

Oeddech chi hefyd yn gwybod fod posib i chi anfon e-bost atom yn lle ffonio? Ymholiadau@adra.co.uk