Workes outside the development on Wynne Road.

Gwaith yn ei anterth yn Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog

Yn dilyn eu llwyddiant o adeiladu dau dŷ ym Mro Pedr Fardd yng Ngarndolbenmaen ger Porthmadog, mae contractwyr mewnol Adra, Tîm Trwsio wrthi yn brysur ar eu hail ddatblygiad ar Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog. Enw’r datblygiad cyffroes yma fydd Llygaid y Moelwyn.

Mae’r datblygiad yn cynnwys 5 cartref i deuluoedd lleol, gyda thri o’r cartrefi yn cael eu haddasu i anghenion penodol y teuluoedd.

Bellach mae’r fframweithiau coed wedi eu codi, ac mae’r gwaith plymio a thrydanol wedi ei ddechrau, mae’r tîm yn cael eu cael eu cefnogi gan y contractwr Tom James Construction Services Ltd o Flaenau Ffestiniog.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu fod wedi ei gwblhau hwyr yn y gwanwyn.

Dywedodd Steffan Evans, Reolwr Masnachol Trwsio: “Rydym yn falch iawn o’r gwaith mae Tîm Trwsio yn ei wneud draw yn Ffordd Wynne, ac yn edrych ymlaen i’r rhagor o ddatblygiadau yn y dyfodol.

“Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i ddarparu tai fforddiadwy o safon i ddiwallu anghenion lleol a darparu cartrefi y gall pobl fod yn falch ohonynt”.

Dywedodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Adra: “Rydym yn falch iawn o weld y gwaith yn symud ymlaen yn Ffordd Wynne. Bydd yn darparu cartrefi sydd wir eu hangen ym Mlaenau Ffestiniog ac mae’r ffaith bod cymaint o gysylltiadau lleol â’r prosiect adeiladu hwn yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig”.

Mae lleoliad y datblygiad yma yng nghanol cymuned glos Blaenau Ffestiniog, a beth gwell na gwahodd disgyblion o Ysgol y Moelwyn i weld y cartrefi yn cael eu codi. Dyma yn union a ddigwyddodd yn ddiweddar gyda dros ugain o ddisgyblion lwcus o flwyddyn 11 yn cael y cyfle i gael cip olwg gyda’r tîm datblygu.

Bu hanner yn cael taith o amgylch y safle yn eu helmedi diogelwch a festiau llachar a’r gweddill yn cael gwneud gweithgaredd ymarferol a thrafod y swyddi gwahanol sydd ar gael yn y diwydiant.

Mae’n bwysig i bobl ifanc lleol weld fod cyfleoedd iddynt weithio yn y sector adeiladu a thai cymdeithasol, yn ogystal a chael y cyfle i gael cartref o ansawdd heb orfod symud o’u hardal nhw.

Ariannwyd y cynllun yn rhannol drwy ddefnydd Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru drwy Rhaglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd.