Llwyddiant blwyddyn cyntaf Academi Adra

Mae Academi Adra yn dathlu llwyddiant ers ei sefydlu blwyddyn yn ôl.  

Ein cynllun cyflogaeth a sgiliau ydi Academi Adra. Mae cynllun Academi Adra wedi helpu 70 o bobl gogledd Cymru, yn denantiaid i ni rhai sydd ddim yn denantiaid i ni, i fanteisio ar hyfforddiant a phrofiad gwaith. Mae 29 wedi’u cefnogi gyda prentisiaethau, 31 i gael mynediad at hyfforddiant ac 8 gyda phrofiad gwaith cyflogedig. Mae 12 hefyd wedi’u cefnogi i mewn i waith gyda ni yma yn Adra neu ein contractwyr.  

Bwriad Academi Adra wrth ei lansio ym mis Mawrth 2021 oedd cefnogi mwy na 60 o bobl i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at  gyfleoedd gwaith ar draws gogledd Cymru erbyn 2022. 

Mae Academi Adra yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac ehangu opsiynau cyflogadwyedd drwy brentisiaethau, lleoliadau gwaith, lleoliadau graddedig a chynlluniau hyfforddi 

Dau unigolyn sydd wedi cael budd o Academi Adra ydi Lucy Mathews a Derwyn Jones. Mae Lucy a Derwyn yn denantiaid i Adra ac wedi llwyddo i gael swydd cytundeb penodol hefo tím Trwsio Adra fel Cynorthwyydd Cynnal a Chadw am gyfnod penodol. 

Llwyddodd Lucy a Derwyn i gael swydd ar ôl astudio cwrs ‘Profiad Ar Safle’ drwy Academi Adra. Mae’r cwrs wedi ei ariannu drwy gronfa CITB sy’n cael ei redeg gan Procure Plus ar draws gogledd Cymru. Roedd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yn Grŵp Llandrillo Menai, ble roeddent yn cwblhau cyrsiau achrededig gan ddilyn hefo wythnos o brofiad gwaith allan ar safle efo Tîm Trwsio neu un o’n contractwyr. Bydd cyfran o gyflog Lucy yn cael ei dalu drwy gefnogaeth cynllun lleoliadau gwaith Môn CF.  

 Dywedodd Lucy Mathews wrth astudio’r cwrs a chyn cael cytundeb hefo ni:  

 “Mae’r cwrs yma’n brofiad gwahanol a dwi wedi dysgu lot. Dwi wedi bod yn dysgu sut i blastro bydd yn sgil defnyddiol at y dyfodol. Dwi wir wedi mwynhau’r cwrs a dwi’n gobeithio y bydd astudio’r cwrs a chael y cyfle yma drwy Academi Adra yn arwain at swydd yn y dyfodol.” 

Mae Kimberly Hughes hefyd wedi cychwyn swydd hefo Adra ers mis Ionawr drwy gynllun Kickstart Academi Adra. Mae hi wedi cael swydd yn ein Canolfan Gyswllt.  

Dechreuodd Kimberly ar 25 awr o gytundeb sy’n cael ei dalu drwy gynllun Kickstart, ond yn ddiweddar mae hynny wedi cynyddu i 37 awr felly mae hi ar gytundeb llawn amser hefo ni erbyn hyn ar sail cytundeb penodol. Rydym yn gweithio hefo Gisda ar ddarparu cefnogaeth cyflogadwyedd i Kim, bydd ganddi fentor o Gisda fydd yn gweithio efo hi ar unrhyw anghenion hyfforddiant ac yn rhoi cefnogaeth iddi chwilio am waith ar ôl cwblhau ei lleoliad efo ni. 

Dywedodd Elin Williams, ein Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau yn Adra: 

“Mae blwyddyn gyfan wedi gwibio heibio ers sefydlu Academi Adra ac mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus.  

“Mae’n bleser gweld pobl o’n cymunedau a’n cwsmeriaid yn llwyddo drwy gael cyfleoedd drwy gefnogaeth Academi Adra. Rydym mor falch o fod yn gallu cyflogi ein cwsmeriaid a datblygu sgiliau pobl sy’n dymuno gwneud hyn.    

“Drwy weithio gyda’n partneriaid yn y maes, rydym wedi medru datblygu cyfleon gwerth chweil i’n cwsmeriaid. Rydym ar hyn o bryd yn hysbysebu 24 o swyddi warden ynni mewn lleoliadau amrywiol ar draws Gwynedd, a bydd sawl swydd newydd arall yn cael eu creu yn ystod y misoedd nesaf gyda’n contractwyr ar ein rhaglen fuddsoddi ac adeiladu o’r newydd. Bydd hyn yn helpu i gynnig mwy o gyfleon gwaith a gyrfaoedd i’n cwsmeriaid o fewn eu cymunedau.”