Llwyddiant wrth dderbyn Achrediad Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth Cwsmer

Roedd yr asesydd yn edrych dros 5 criteria ac yn fodlon fod Adra yn parhau i gyrraedd y Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer.

Bu’r asesydd yn siarad gydag aelodau o staff, partneriaid, tenantiaid ac wedi cael taith o amgylch Tŷ Gwyrddfai.

Fel rhan o’i ddyfarniad eleni, mae’r asesydd wedi cadarnhau fod Adra nid yn unig yn cwrdd â’r safon ond hefyd wedi rhoi 4 cyfraddiad Compliance Plus ar gyfer Academi Adra, Tŷ Gwyrddfai, Gwerth Cymdeithasol a pherfformiad cyffredinol.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau:

“Rydw i wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i dderbyn Achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer unwaith eto.

“Mae ein tenantiaid yng nghanol popeth ydan ni’n ei wneud ac mae’n staff yn benderfynol i ddarparu gwasanaethau gwych sy’n cadw tenantiaid yn ddiogel ac yn gyffyrddus yn eu cartrefi.

“Mae’r Achrediad yma yn adlewyrchu ymroddiad pawb yn Adra gan fod pob rôl yn hanfodol i wasanaethu ein tenantiaid. Hoffwn ddiolch i’r tîm i gyd.”