Officers from Adra and GISDA with officers from Cornwall

Mae Adra a GISDA yn cydweithio i gryfhau cysylltiadau rhwng Cymru a Chernyw.

Mae’n bleser gennym ni, Adra, mewn cydweithrediad â GISDA, gyhoeddi ein partneriaeth a gefnogir gan Raglen Taith Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o feithrin cysylltiadau rhwng Gwynedd a Chernyw.

Gyda’n gilydd, rydym wedi cychwyn ar fenter ar y cyd gyda GISDA i ymchwilio i ôl-effaith y diwydiant twristiaeth yn y ddau ranbarth. Gyda’r nod i ddeall yr effaith ar yr iaith, diwylliant, a fforddiadwyedd tai i bobl ifanc yn ein cymunedau. Mae llofnodi ‘Cytundeb Cernyw a Chymru’ gan Lywodraeth Cymru yn tanlinellu ein hymrwymiad i wella cysylltiadau rhwng y ddau ranbarth.

Drwy gydol ein taith ddiweddar i Gernyw, mae ein tîm wedi ymgysylltu â sefydliadau amrywiol, gan gynnwys St. Petrocs, Harbour Housing, ‘The House,’ Swyddfa Iaith Cernyw, a Chyngor Cernyw, ymhlith eraill. Rydym yn ymroddedig i gynnal y cysylltiadau hyn.

Dywedodd Gemma Owen, Rheolwr Cynorthwyol Tai Fforddiadwy Adra: “Roedd yn fraint cael gwahoddiad i Gernyw i weld yr holl waith anhygoel sy’n cael eu gwneud.

“Roedd yn wych gweld y tebygrwydd rhwng y Gymraeg a Chernyweg a thrafod cynlluniau’r Cyngor i hybu’r iaith a thyfu nifer y siaradwyr dros y blynyddoedd nesaf. Cawsom ein synnu gan ba mor debyg yw Cernyw i ogledd Cymru o ran y tirwedd a’r heriau a wynebir.

“Mae gweld y gwaith sydd yn cael ei gwneud wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig a gweld y gwahaniaeth a wneir i gymunedau Cernywaidd, ac yn braf gweld sefydliadau blaengar o’r fath.”

Ychwanegodd Jess Brown, Swyddog Gosod Adra: “Rwy’n ddiolchgar iawn am fod yn rhan o brofiad mor ysbrydoledig.

“Mae gan Gernyw a Gogledd Cymru fwy yn gyffredin nag a wyddom, mae cyfarfod â phobl a sefydliadau mor ysbrydoledig wedi bod yn fraint yn enwedig i ddeall sut maent yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai a digartrefedd. Rwyf wedi dysgu cymaint ag rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Siân Tomos, Prif Weithredwraig GISDA: “Bu’n daith arbennig o lwyddiannus ac mae’r potensial i gydweithio yn enfawr.

“Hoffwn ddiolch i Adra am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i gydweithio i greu’r bartneriaeth bwysig hwn, byddwn yn mynd ati rwan i ledaenu’r hyn ydym wedi ei ddysgu gydag eraill a datblygu cyfleoedd newydd i eraill yn ogystal.