Llun o'r Ganolfan Alwadau

Newyddion pwysig i denantiaid am ein horiau agor

Rydym yn cyhoeddi newidiadau i oriau agor ein swyddfeydd, yn ogystal â’n canolfan Gwasanaethau Alewadau Cwsmeriaid o 1af Mai, i ateb y galw gan y cyhoedd.

Bydd ein swyddfeydd yn Stryd Penlan, Pwllheli; Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau; Tŷ Coch, Parc Menai, Bangor a Thŷ Gwyrddfai, Penygroes nawr ar agor rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid oes angen apwyntiad.

Bydd y Ganolfan Alwadau Cwsmeriaid nawr ar agor o 8am tan 5pm.

Oeddech chi’n gwybod mai’r dyddiau prysuraf ar ein ffonau yn y Ganolfan Alwadau Cwsmeriaid yw dydd Llun a dydd Mawrth? O ganlyniad, rydych yn llawer mwy tebygol o ddod drwodd atom yn gynt trwy gysylltu â ni rhwng dydd Mercher a dydd Gwener.

Ac a oeddech chi hefyd yn gwybod bod gennym ni wasanaeth cyswllt yn ôl? Hynny yw, os ydych chi’n aros am amser hir i’ch galwad ffôn fynd drwodd, gallwch ddefnyddio gwasanaeth galw’n ôl, lle rydych chi’n dewis opsiwn i ni eich ffonio’n ôl ond nid ydych chi’n colli’ch lle yn y ciw, ac mae’n yn rhyddhau amser i chi wneud pethau eraill.

Gallwch hefyd gysylltu â ni trwy e-bost yn lle ffonio: Ymholiadau@adra.co.uk