Photo from the sky of Maesgeirchen with Snowdonia in the background.

O dan y chwydd wydr – Be nesaf i gymunedau Cymreig y Gogledd Orllewin

Cydweithio i greu cymunedau llewyrchus a thrafod y camau nesaf i hybu a gwarchod ardaloedd Cymreig y Gogledd Orllewin fydd y pwnc trafod mewn digwyddiad a drefnir gan Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru ar gyfer wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y sesiwn, o’r enw ‘Sicrhau Cymunedau Ffyniannus – Gyda’n Gilydd’ yn cael ei chynnal ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar y Maes ar ddydd Sadwrn, Awst 5 am 2.30pm.

Ymhlith y siaradwyr fydd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra; Siân Gwenllian, Aelod Senedd Arfon; Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn; Bethan Williams, Prif Weithredwr Mantell Gwynedd a’r Cynghorydd Craig ab Iago o Gyngor Gwynedd.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Rydym yn falch iawn o gael ymuno â nifer o sefydliadau ar gyfer y drafodaeth banel pwysig hon ar y Maes.

“Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i weithio tuag at wneud ein cymunedau’n fwy llewyrchus a lle gall pobl ffynnu, boed hynny trwy dai o ansawdd uchel neu hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth.

“Rydym am i’n cymunedau fod yn hyderus ac yn wydn drwy wneud yn siŵr eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd. Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain ac mae partneriaethau yn hynod o bwysig i Adra.

“Bydd y sesiwn banel yn gyfle gwych i glywed gan y sefydliadau a’r unigolion eraill am y gwaith y maent yn ei wneud yn y maes hwn , gyda phwyslais mawr ar beth fydd y camau nesaf. Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i warchod ardaloedd cefn gwlad a Chymreig yn y cyfnod sydd ohoni?.

“Rwy’n siŵr y bydd digonedd o drafodaeth ac mae hi’n hynod o bwysig ein bod ni fel arweinwyr yn ein cymunedau yn cael y sgwrs ac yn sicrhau ein bod ni yn gweithredu’n gadarnhaol er mwyn helpu ein cymunedau i ffynnu”.

Mae’r sesiwn panel yn agored i’r cyhoedd.