Tenant newydd Hannah yn cael y goriadau

Rhagor o denantiaid yn symud i mewn i ddatblygiad diweddaraf Adra.

Mae cam diweddaraf datblygiad mawr ym Mhrestatyn bellach yn wedi ei gwblhau, gyda mwy o denantiaid yn symud i’w cartrefi newydd sbon.

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, yn arwain ar ddatblygu 102 o gartrefi ar safle Fferm Plas Newydd ym Mhrestatyn. Y contractwr ar gyfer y datblygiad yw Castle Green Homes.

Mae 50 eiddo bellach wedi’u trosglwyddo, gyda’r gweddill i’w cwblhau fesul cam tan fis Mawrth 2024.

Roedd yr eiddo diweddaraf i’w cwblhau yn cynnwys unedau rhent canolradd (Tai Teg), un o’r tenantiaid newydd i symud i mewn oedd Hannah: “Mae cael byw mewn tŷ Adra newydd yn golygu bod gen i a fy machgen bach sicrwydd o do uwch ein pennau, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi wrthym.

“Mae’r gefnogaeth gan Ceri trwy gydol y cyfnod adeiladu gyda diweddariadau wedi bod yn wych, a doedd erioed amser pan nad oeddwn yn teimlo y gallwn fynd ati i ofyn unrhyw gwestiynau. Mae fy holl brofiad wedi bod yn wych gyda Ceri o Adra a Castle Green Homes. Mae’r cartref yn brydferth, a gallaf ddweud yn barod y bydda i a fy machgen bach yn ymgartrefu’n dda yma ac yn gallu ei wneud yn gartref go iawn gyda’n gilydd.”

Dywedodd Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn falch iawn o weld rhagor o eiddo yn cael eu cwblhau a’u trosglwyddo drosodd i’n tenantiaid yn Fferm Plas Newydd.

“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn y rhan yma o Sir Ddinbych, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd, o ansawdd uchel a fforddiadwy y gall pobl fod yn falch ohonynt ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn y gwanwyn.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol cofrestrwch gyda SARTH: 01824 712911 / Ymgeisio am dai cymdeithasol | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Tai Teg: www.taiteg.org.uk