Teulu lleol yn symud i’w cartref fforddiadwy newydd yn Llai, Wrecsam

Mae tad lleol a’i ddwy ferch wedi symud i’w cartref fforddiadwy newydd o ansawdd uchel, wedi ei ddarparu gennym sy’n rhan o gymuned newydd o gartrefi ar gyrion Wrecsam.

Mae’r rhiant sengl Wayne Edwards wedi symud i Llai gyda’i ddwy ferch ifanc ac mae bellach yn byw yn agos iawn at ei deulu, gyda’i fam o Llai a’i dad o Gefn-Y-Bedd yn Sir y Fflint.

Rydym yn gyfrifol am amrywiaeth o gartrefi newydd, fforddiadwy dwy a thair ystafell wely sydd ar gael drwy gynllun Rhanberchnogaeth neu gan Rent Canolraddol.

Mae ein cartrefi yn rhan o’r datblygiad cymysg newydd yn Llai, wrth i ni weithio mewn partneriaeth ag adeiladwyr tai Bellway Homes ac Anwyl Homes.

Mae’r tad lleol, Wayne Edwards, 44 oed, wedi symud i un o’r cartrefi yma gyda’i ddwy ferch. Dywedodd: “Mae Adra wedi rhoi lle i ni wneud ein cartref, ac rydyn ni’n teimlo’n ddiogel. Mae’r ystâd yr ydym wedi symud arni wedi’i chynllunio’n dda iawn ac mae’n darparu amrywiaeth i’n bywydau drwy ddemograffeg gymysg.

“Mae Adra wedi bod yn hynod gefnogol drwy’r holl broses o wneud cais, symud a setlo i mewn.”

Ychwanegodd Elin Owen, Swyddog Cartrefi Fforddiadwy yma yn Adra:

“Mae’n werth chweil gweld pobl yn symud i’w cartrefi newydd a bod yn rhan o’r broses honno. Mae gennym amrywiaeth o opsiynau ar gael i bobl sydd am symud i’r cartrefi fforddiadwy a chyfforddus newydd hyn yn Llai, Wrecsam.

“Mae gennym gartrefi ar gael o dan gynllun o’r enw Rhanberchnogaeth lle gall cwsmeriaid brynu a rhentu eu cartref newydd yn rhannol, gydag isafswm ecwiti o 25% i uchafswm o 75%.

“Gall cwsmeriaid gael eu troed ar yr ysgol dai a chynyddu eu cyfran o’r berchnogaeth ar unrhyw adeg yn seiliedig ar gynlluniau ad-dalu cynaliadwy. Yna mae rhent misol yn seiliedig ar y gyfran na brynwyd.”

Ar hyn o bryd mae gennym bum cartref tair gwely ar gael ar sail cynllun Rhanberchnogaeth yn Llai; am fwy o fanylion cysylltwch â’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy ar 0300 1238084 neu tai@adra.co.uk / homes@adra.co.uk

I’w ystyried ar gyfer cartref fforddiadwy, rhaid i ymgeiswyr gofrestru gyda Tai Teg. Ewch i taiteg.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Gydberchnogaeth ewch i: www.llyw.cymru/eichhomeinwales