Dyfarniad Rheoleiddio

Fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, rydym yn cael ein reoleiddio gan Dîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r amcanion y disgwylir i bob Cymdeithas Dai eu darparu, sy’n ymwneud â gwasanaethau tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol. Dywedant eu bod yn disgwyl inni gyflawni mewn 9 maes allweddol er mwyn bod yn effeithiol fel landlord cymdeithasol.

Bob blwyddyn, fel rhan o’r broses Rheoleiddio, rydym yn cynnal hunanwerthusiad o’n gweithgareddau i ddangos sut rydym yn cwrdd â’r canllawiau perthnasol. Yna caiff yr hunanwerthusiad hwn ei rannu â Thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru, sy’n herio’r cynnwys ac yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar ein cyflawniadau. Mae rhan olaf y broses hon yn gweld cyhoeddi adroddiad Dyfarniad Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Adra.

Mae’n bleser gennym adrodd bod ein Dyfarniad Rheoleiddiol diweddaraf (ym mis Hydref 2022) wedi’i gadarnhau fel “Cydymffurfio” ar gyfer Llywodraethu a Gwasanaethau Tenantiaid, a Hyfywedd Ariannol.

Darllenwch ein Barn Reoleiddio Ddiweddaraf

Darllenwch ein Adroddiad Hunan –Werthusiad 2022-2023