Rheoleiddio
Rydym yn cael ein reoleiddio gan Llywodraeth Cymru.
Mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda cymdeithasau tai i sicrhau safon gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid; llywodraethu effeithiol; â hyfywedd ariannol.
Yn syml, yn edrych ar y ffordd rydym yn rheoli’r cwmni a’n gwasanaethau.
Dyma’r broses:
- rydym yn hunan arfarnu ein gweithgareddau er mwyn profi sut rydym yn cyrraedd y gofynion perthnasol
- mae’r hunan arfarniad yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru.
- yn ogystal a’r hunan arfarniad mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu trafod gyda tenantiaid ac edrych ar ein cynlluniau busnes
- mae Llywodraeth Cymru yna yn cyhoeddi eu adroddiad Barn Reoleiddiol. Mae’r adroddiad yn rhoi Barn Reoleiddiol Llywodraeth Cymru ac yn darparu ein staff, cwsmeriaid a phartneriaid gyda dealltwriaeth o pa mor dda rydym yn perfformio yn erbyn y safonau perfformiad yn ymwneud a:
- llywodraeth a wasanaethau
- hyfywedd ariannol
Dyfarniad rheoleiddio Llywodraeth Cymru amdanom ni
Noder, cafodd y dyfarniad hwn ei gyflawni pan oeddem yn CCG.
Mae’r arfarniad yn syrthio i fewn i un o’r pedwar categori canlynol;
- “Safonol”
- “Cynyddol”
- “Ymyrraeth”
- “Gweithredu Statudol”.
Derbyniodd Adra y farn “Safonol” yn Rhagfyr 2019 sydd yn golygu ein bod yn adnabod ac yn rheoli risgiau presennol a risgiau fydd yn codi yn bwrpasol. Mae hefyd yn golygu bod gennym yr adnoddau pwrpasol ar gyfer cyrraedd gofynion ein ymroddiadau busnes ac ariannol ar gyfer y dyfodol, barn addawol iawn.