Dyfarniad Rheoleiddio

Fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, rydym yn cael ein reoleiddio gan Dîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r amcanion y disgwylir i bob Cymdeithas Dai eu darparu, sy’n ymwneud â gwasanaethau tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol. Dywedant eu bod yn disgwyl inni gyflawni mewn 9 maes allweddol er mwyn bod yn effeithiol fel landlord cymdeithasol.

Bob blwyddyn, fel rhan o’r broses Rheoleiddio, rydym yn cynnal hunanwerthusiad o’n gweithgareddau i ddangos sut rydym yn cwrdd â’r canllawiau perthnasol. Yna caiff yr hunanwerthusiad hwn ei rannu â Thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru, sy’n herio’r cynnwys ac yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar ein cyflawniadau. Mae rhan olaf y broses hon yn gweld cyhoeddi adroddiad Dyfarniad Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Adra.

Mae’n bleser gennym adrodd, ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, bod ein Dyfarniad Rheoleiddio wedi’i gadarnhau fel “Cydymffurfio” ar gyfer Llywodraethu a Gwasanaethau Tenantiaid, a Hyfywedd Ariannol.

Darllenwch ein Barn Reoleiddio Ddiweddaraf

Darllenwch ein Adroddiad Hunan –Werthusiad 2021-2022 

Asesiad: Hydref 2022

Llywodraethu a Gwasanaethau Tenantiaid – Cydymffurfio

Hyfywedd Ariannol – Cydymffurfio

Gweler ein canllaw ar Ddyfarniadau Interim i gael rhagor o wybodaeth.