Tai Cefnogol

Mae gennym 8 safle Tai Cefnogol ar draws Arfon a Meirionnydd ac un safle yn Llanelwy.

Mae Swyddog ym mhob safle i helpu ein tenantiaid fyw’n annibynnol.

 

Pwy sy’n cael byw mewn Tai Cefnogol?

Unrhyw un sydd:

  • dros 55
  • yn anabl

ac sydd angen y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ein Swyddog Tai Cefnogol.

Sut i wneud cais am Dai Cefnogol

  • os ydych eisiau sgwrs am safle penodol, y costau a gwasanaethau, cysylltwch efo ni
  • os ydych eisiau gwneud cais, cysylltwch efo’r Tîm Opsiynau Tai

 

Gwasanaethau ar gael mewn Tai Gwarchod

  • byddwn yn gwneud cyswllt gyda chi hyd at 3 gwaith yr wythnos, yn dibynu ar staffio. Gall hyn fod yn gymysgedd o ymweliadau neu alwadau ffôn.
  • eich helpu i’ch cyfeirio at asiantaethau eraill fel Age Cymru, Cyngor ar Bopeth, addasiadau a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • pecyn cymorth sydd yn addas i’ch anghenion
  • gosod llinell argyfwng 24 awr y dydd
  • byddwn yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn aml, naill ai ar y safle neu oddi ar y safle i helpu frwydro yn erbyn ungirwydd.

Ni fydd ein Swyddogion Tai Gwarchod yn gwneud pethau fel siopa, coginio, glanhau a gofal personol.

Cofiwch y gallwch dderbyn y gwasanaeth yma os nad ydych yn byw yn un o’n Tai Gwarchod.

Darllenwch fwy am hyn ar ein tudalen Gwasanaeth Tai Gwarchod yn y gymuned

  • Bro Llywelyn, Penrhyndeudraeth

    Cyfleusterau’r Fflat

    • ystafell fyw fawr
    • cegin
    • un, dwy ac (un) tair ystafell wely
    • ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn/ ystafell wlyb
    • system wresogi nwy

    Cyfleusterau’r safle

    • lifft
    • ystafell fyw gymunedol
    • cegin gymunedol
    • gardd gymunedol
    • storfa ar gyfer sgwter
    • Teledu Cylch Cyfyng
    • swyddog cefnogi Tai Gwarchod a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • system mynediad electronig
    • ystafell golchi dillad
    • parcio ar y safle
  • Cysgod y Coleg, Y Bala

    Cyfleusterau’r fflat

    • ystafell fyw fawr
    • cegin
    • un neu ddwy ystafell wely
    • ystafell ymolchi gyda chawod cerdded mewn ac ystafell wlyb
    • system wresogi nwy

    Cyfleusterau’r safle

    • lifft
    • tŷ haul
    • ystafell fyw gymunedol
    • cegin gymunedol
    • gardd gymunedol ac ardal eistedd tu allan
    • lle cadw sgwter
    • Swyddog Tai Cefnogol a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • Teledu Cylch Cyfyng
    • system mynediad electronig
    • ystafell golchi dillad
    • parcio ar y safle

    Gweithgareddau ar y safle

    • bore coffi
    • clwb cinio
    • gwasanaeth crefyddol misol
  • Pentre Uchaf, Dyffryn Ardudwy

    Cyfleusterau’r fflat

    • ystafell fyw braf
    • cegin
    • un, dwy ystafell wely
    • un fflat tair ystafell wely
    • ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn/
    • ystafell wlyb
    • system wresogi canolog olew

    Cyfleusterau’r Safle

    • lifft
    • ystafell fyw gymunedol
    • cegin gymunedol
    • gardd gymunedol a lle eistedd tu allan
    • Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • TCC
    • system mynediad electroneg
    • parcio ar y safle
  • Hafan Deg, Abermaw

    Cyfleusterau’r Fflat

    • ystafell fyw braf
    • cegin
    • un neu dair ystafell wely
    • un fflat tair ystafell wely
    • ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn /
    • ystafell wlyb
    • system wresogi nwy

    Cyfleusterau’r Safle

    • WIFI Cymunedol
    • ystafell fyw gymunedol
    • cegin gymunedol
    • gardd gymunedol
    • lle cadw sgwter
    • Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • TCC
    • system mynediad electroneg
    • ystafell olchi dillad
    • parcio ar y safle

    Gweithgareddau ar y safle

    • bore coffi
  • Cae Catrin, Penygroes

    Cyfleusterau’r Fflat

    • ystafell fyw
    • cegin
    • un neu ddwy Ystafell wely
    • ystafell ymolchi cerdded i mewn / ystafell wlyb
    • system wresogi nwy canolog
    • gerddi unigol i fyngalos
    • gardd gymunedol i fflatiau

    Cyfleusterau’r safle

    • gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • parcio ar y safle (ychydig o lefydd)
    • gweithgareddau ar ysSafle
    • cinio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru

    Mae Cae Catrin yn ymuno gyda gweithgareddau yn y neuadd gymunedol

  • Lôn yr Eglwys, Penygroes

    Cyfleusterau’r Byngalos

    • ystafell fyw
    • cegin
    • dwy ystafell wely
    • ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn /
    • ystafell wlyb
    • system gwresogi nwy
    • gerddi unigol

    Cyfleusterau’r safle

    • gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • parcio ar y safle (ychydig o lefydd)
    • gweithgareddau’r Safle
    • ginio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru
    • Mae Lôn yr Eglwys yn ymuno a’r neuadd gymunedol leol i gael gweithgareddau cymdeithasol
  • Bryn Llwyn, Penygroes

    Cyfleusterau’r fflatiau a byngalos

    • ystafell fyw
    • cegin
    • dwy Ystafell wely
    • ystafell ymolchi gyda cawod cerdded i mewn/ ystafell wlyb neu fath
    • system gwresogi nwy
    • gerddi, gyda byngalos llawr gwaelod
    • fflatiau eraill efo gerddi cymunedol

    Cyfleusterau’r safle

    • gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • parcio ar y safle (ychydig o lefydd)
    • cinio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru
  • Trem yr Wyddfa

    Cyfleusterau’r byngalo

    • ystafell fyw
    • cegin
    • dwy ystafell
    • ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn/
    • ystafell wlyb
    • system wresogi nwy canolog
    • gerddi unigol

    Cyfleusterau’r safle

    • gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
    • parcio ar y safle (ychydig o lefydd)

    Gweithgareddau’r Safle

    • cinio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru
    • mae Trem yr Wyddfa yn ymuno yng ngweithgareddau cymdeithasol y neuadd gymunedol