Diogelu
Mae diogelu yn golygu atal ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Mae hefyd yn golygu dysgu pobl sydd o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a pheryglon.
Mae gennym ni gyfrifoldeb i amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg ac ymdrin â honiadau, peryglon neu ddatgelu camdriniaeth neu esgelustod yn effeithiol.
Beth i’w wneud os ydych yn poeni am blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg
- Os oes yna sefyllfaoedd sy’n achosi pryder lle mae yna risg rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib
Mewn argyfwng galwch y gwasanaethau brys ar 999.
Os tu allan i oriau (5pm-9am) cysylltwch â’r awdurdod lleol:
- Gwynedd- 01248 353 551
- Conwy- 0300 1233079
- Sir Ddinbych- 0345 053 3116
- Sir y Fflint- 0345 053 3116
- Wrecsam- 0345 053 3116
Pwy gaiff ei ddiffinio fel plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg?
Mae’r geiriau ‘oedolyn sy’n wynebu risg’ yn disgrifio unrhyw un dros 18 mlwydd oed sy’n profi neu mewn perygl o brofi camdriniaeth neu esgeulustod a sydd angen cymorth a gofal (pa un ai bod y awdurdod yn cwrdd â unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio) ac o ganlyniad i’r anghenion hyn, methu diogelu eu hunain o gamdriniaeth neu esgeulustod hynny.
Mae’r geiriau ‘plentyn sy’n wynebu risg’ yn disgrifio unigolyn o dan 18 mlwydd oed sy’n profi neu mewn perygl o brofi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed ag anghenion am ofal a chefnogaeth (boed yr awdurdod yn cwrdd ag unrhyw rai o’r anghenion hynny neu beidio).
Beth yw camdriniaeth neu esgeulustod?
Mae’r term ‘camdriniaeth’ yn disgrifio cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac yn cynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, boed hynny mewn cartref preifat, sefydliad neu unrhyw le arall).
Mae’r term ‘esgeulustod’ yn golygu methu â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at niwed i les y person (er enghraifft, niwed i iechyd y person)
Mae diffiniadau llawn o bob math o gamdriniaeth wedi eu cynnwys yn ein Polisi Diogelu.
Adnabod camdriniaeth ac esgeulustod
Mae yna sawl arwydd o gamdriniaeth, bydd y rhain yn amrywio oherwydd y math o gamdriniaeth ac
esgeulustod.
• Efallai y bydd dioddefwyr camdriniaeth corfforol yn dangos tystiolaeth o grafiadau, cleisiau, llosgiadau a sgaldiadau.
• Efallai y bydd dioddefwyr camdriniaeth rywiol yn mynd yn fewnblyg, sef ei chael hi’n anodd cerdded
neu eistedd neu fod newid yn eu hymddygiad arferol.
• Efallai y bydd dioddefwyr emosiynol neu seicolegol yn dangos lefelau uchel o straen neu bryder, yn
hunan niweidio, yn dangos arwyddion o iselder neu eisiau sylw.
• Dangosyddion posib o gamdriniaeth ariannol neu economaidd yw diffyg eiddo fel dillad neu eitemau
personol fel ffôn symudol.
• Efallai y bydd dioddefwyr o esgeulustod yn dangos y canlynol – iechyd yn dirywio, brechau, doluriau, dillad anaddas neu gyflyrau iechyd sydd heb eu trin.
Mae rhestr llawn i’w cael yn ein rhestr lawn i’w cael yn ein polisi Diogelu Grwpiau Bregus. Cysylltwch â ni i gael copi.
Un o egwyddorion pwysicaf diogelu yw bod hyn yn gyfrifoldeb ar pawb.
Dim ein dyletswydd ni yw profi fod camdriniaeth neu esgeulustod ond mae’n ddyletswydd arnom i adrodd unryw bryder.
Ein dyletswydd ni
Byddwn yn cadw cyfrinachedd wrth ymdrin â materion o ddiogelu ond efallai by byddwn yn rhannu gwybodaeth gydag asiantiaethau sy’n bartneriaid i ni, er enghraifft:
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- yr Heddlu
- Asiantaethau Camdrîn yn y Cartref
Mae rhannu gwybodaeth berthnasol yn effeithiol rhwng pobl broffesiynol yn hanfodol er mwyn diogelu oedolion neu blant sy’n wynebu risg.
Byddwn yn cydymffurfio yn llawn gydag asiantaethau a phartneriaid eraill wrth ymdrin â materion diogelu
