Ymddygiad gwrth-gymdeithasol
Rydym eisiau i’n cwsmeriaid i fyw mewn lle diogel a dymunol.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda:
- chi ein cwsmeriaid
- yr heddlu
- cyngor lleol
a nifer o gyrff lleol eraill i wneud ein gorau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, i ddatrys problemau rhwng cymdogion ac i wella’r ardal.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw broblem gwrth-gymdeithasol yn eich ardal.
Rhoi gwybod i ni am broblem
Dyddiadur niwsans
Mae cadw cofnod manwl o bob digwyddiad gwrth-gymdeithasol yn bwysig.
Gall dyddiadur niwsans eich helpu i wneud hyn.
Cysylltwch â ni i gael dyddiadur niwsans