Diogelwch tân mewn fflatiau

Ydych chi’n byw mewn fflat?

Mae rheolau a canllawiau rhywfaint yn wahanol i fod yn ymwybodol ohonynt.

 

Os hoffech mwy o gyngor am ddiogelwch tân neu os hoffech drefnu  ymweliad â’ch cartref gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cysylltwch gyda’ch swyddfa diogelwch tân lleol i drefnu “Gwiriad Diogel ac Iach”.

  • Ynys Môn a Gwynedd – 01286 662999
  • Conwy a Sir Ddinbych – 01745 352777
  • Wrecsam a Sir y Fflint – 0300 123 3249
  • Fflatiau diogel i aros ynddynt

    Arhoswch

    Adeiladwyd blociau o fflatiau a fflatiau deulawr pwrpasol i’ch ammdiffyn ychydig rhag y tân.  Mae hyn yn golygu bod waliau, lloriau, a drysau’n gallu dal y fflamau a mwg yn ôl am 30 i 60 munud.

    Yn achos tân yn eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn gwybod yn union pa gamau i’w cymryd mewn tân.

    Darllen Mwy

  • Fflatiau gwagio yn gyfan gwbl

    Gwagio yn gyfan gwbl

    Mewn fflatiau fel hyn mae system ddarganfod tân wedi’i gosod yn yr ardal gymunedol, wedi’i gysylltu i bob fflat ac mae ganddo banel larwm tân wedi’i leoli yn yr ardal gymunedol.

    Darllen Mwy

  • Diogelwch tân ardaloedd cymunedol

    Mae gan Adra Weithdrefn Diogelwch Tân mewn Ardaloedd Cymunol, mae wedi mabwysiadu dim goddefgarwch o ran rheoli tor i ddiogelwch tân yn gysylltiedig gyda dulliau dianc. Gall methu â chydymffurfio gyda Diogelwch Tân yn y Weithdrefn Ardal Gymunol arwain at gymryd camau gorfodi.

    Beth sydd angen i chi ei wneud fel preswylydd?

    • Helpwch ni i wneud yn siwr fod llwybrau dianc yn cael eu gadael yn gyfan gwbl glir o eitemau dodrefn, pramiau, bygis, sgwteri symudol, sbwriel, beiciau, ac ati

  • Drysau Tân

    Mae drysau tân yn chwarae rhan bwysig o ran cynnal eich diogelwch.  Pan maent yn cael eu defnyddio yn gywir, maent yn atal tanau rhag lledaenu drwy adeilad, gan roi amser i bobl ddianc ac amser i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd ac o bosib, achub y safle. Gallent ddal tân yn ôl am o leiaf 30 munud.

    Rydym yn cynnal gwiriad blynyddol o holl ddrysau mynediad i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol. Byddwn yn atgyweirio neu’n amnewid drysau nad ydynt yn cyrraedd y safonau cydymffurfio gofynnol.

    Edrych ar ôl eich drysau tân.

    Peidiwch…

    • â’u gadael ar agor neu adael i bobl eraill eu gadael ar agor – gall drysau achub bywydau os ydynt wedi cau.
    • ag ymgymryd ag unrhyw waith atgyweirio neu waith ar eich drws tân – mae angen arbenigwr sydd wedi’i hyfforddi i wneud hyn.
    • â thynnu’r ddyfais sy’n cau ei hun neu unrhyw gydran arall sydd wedi’i ffitio i’r drws.
    • â gadael drysau sydd wedi’u difrodi heb eu hadrodd – dylech bob amser adrodd ar unrhyw ddrws sydd wedi difrodi i Dîm Gwasanaeth Cwsmer Adra. Efallai na fydd drws wedi’i ddifrodi yn rhoi’r lefel angenrheidiol o amddiffyniad rhag tân.

    Dylech…

    • Caniatáu i Adra ymgymryd ag archwiliad blynyddol o ddrws mynediad eich fflat.
    • Gwneud yn siŵr bod y drws yn cau yn llwyr o dan bwysau’r ddyfais cau ei hun.
    • Adrodd am unrhyw ddiffygion i Dîm Gwasanaethau Cwsmer Adra.