Marwolaeth Tenant

Mae colli rhywun agos yn ddigon anodd fel y mae, mwy na thebyg bydd poeni beth sydd am ddigwydd i’r cartref yn chwarae rhan yn hyn.

Gobeithio bydd y wybodaeth yma yn eich helpu yn ystod y cyfnod anodd yma.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni pan fydd deiliad contract (tenant) yn ein gadael cyn gynted â phosibl. Rhowch alwad i ni a gofynnwch am siarad â’r Tîm Gwasanaethau Tenantiaid, a fydd yn gallu eich helpu.

Os oedd deiliad y contract (tenant) yn byw ar ei ben ei hun, a’ch bod eisiau trafod dychwelyd y goriadau ac ati, rhowch alwad i ni a gofynnwch am y Tîm Gosod:

  • 0300 123 8084

Mae’r daflen wybodaeth  Profedigaeth yn rhoi gwybodaeth i’ch helpu gyda’r broses o ddod â chontract meddiannaeth (tenantiaeth) i ben pan fydd deiliad contract (tenant) yn marw.

Fodd bynnag, yn aml pan fydd deiliad contract (tenant) yn ein gadael, bydd aelodau eraill o’r teulu parhau i fyw yn y cartref. Mewn achosion fel hyn, efallai bydd gan yr aelod o’r teulu hawl i ‘olyniaeth’

Olyniaeth yw’r broses o gymryd drosodd contract, ar ôl i ddeiliad gwreiddiol y contract ein gadael.

  • Pwy sydd gan hawl i Olynu?

    Er mwyn olynu contract, mae’n rhaid eich bod wedi bod yn byw yn yr eiddo gyda deiliad y contract pan fu farw.
    Bydd pa mor hir y mae angen i chi fod wedi byw yno yn dibynnu ar eich perthynas â nhw.

    Gŵr, Gwraig neu Bartner Sifil

    Os mai chi yw gŵr, gwraig neu bartner sifil y person sydd wedi ein gadael, mae’n rhaid eich bod wedi bod yn byw yn yr eiddo adeg y farwolaeth.
    Byddwn angen prawf o hyn, megis bil gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, wedi’i ddyddio ar ddyddiad y farwolaeth neu tua’r adeg yma.

    Aelodau eraill y teulu

    Os nad ydych yn ŵr, gwraig neu bartner, mae olynu dal yn bosibl. Os ydych wedi byw yno gyda deiliad y contract am 12 mis, cyn iddynt ein gadael. Aelodau’r teulu a fyddai’n cael eu cynnwys yw:

    • rhiant
    • Nain a Taid
    • plentyn (gan gynnwys llys blant a phlant sydd wedi’u mabwysiadu)
    • ŵyr/ wyres
    • brawd
    • ewythr
    • Modryb
    • nai/nith
    • Gofalwyr

    Gofalwyr

    Gallai gofalwr hefyd fod yn gymwys i olynu’r contract pe baen nhw’n darparu llawer iawn o ofal i’r ymadawedig yn rheolaidd.
    Mae’n rhaid eu bod hefyd wedi byw gyda deiliad y contract am gyfnod o 12 mis, cyn dyddiad y farwolaeth.
    Byddwn angen prawf o hyn, megis bil gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, wedi’i ddyddio ar ddyddiad y farwolaeth neu tua’ adeg yma.

  • Rwyf yn ddeiliad contract ar y cyd. Allai olynu'r contract?

    Nid oes angen i ddeiliaid cyd-gontract olynu’r contract.
    Os bydd un deiliad contract yn marw, mae gweddill deiliaid y contract yn parhau i fod yn ddeiliaid contract.

    Nid oes angen i chi wneud cais am olyniaeth, mae eich contract yn ddiogel. Fodd bynnag mae angeni chi roi gwybod i ni eu bod wedi ein gadael.

  • Oes modd i fwy nag un person olynu?

    Na, dim ond un person all olynu contract. Os yw mwy nag un person yn gymwys, dylai’r teulu/pobl sy’n gymwys benderfynu ymysg eu gilydd, cyn gwneud cais gyda ni.

    Os na all y teulu/pobl sy’n gymwys ddod i benderfyniad, dylai pawb sydd am olynu wneud cais a byddwn ni yn penderfynu pwy fydd yn olynu.

  • Sut mae gwneud cais?

    Os yw deiliad y contract wedi marw, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.

    Os oedd unrhyw un yn byw gyda deiliad y contract, a dim nhw ydy deiliad y contract, rhaid gwneud cais ysgrifenedig am olyniaeth.

    Gellir gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen yma a’i dychwelyd atom.

    Ffurflen Cais am Olyniaeth (word)

    Ffurflen Cais am Olynidaeth (pdf)

  • Mae gen i'r hawl i olyniaeth. Ydy hyn yn golygu y galla i aros i fyw lle ydw i?

    Fel arfer, ydy.
    Fodd bynnag, weithiau gall cartref fod yn anaddas i’r deiliad(au) sydd ar ôl.
    Gall fod yn rhy fawr neu fod ganddynt addasiadau sylweddol nad oes eu hangen ar y deiliaid sy’n ar ôl.
    Dan yr amgylchiadau yma, byddwn yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i le mwy addas.