Gwaith Trwsio

Mae cadw eich cartref mewn cyflwr da yn bwysig.
Mae ein gwasanaeth trwsio ar gael i drwsio problemau yn eich cartref mor fuan ag sy’n bosib.

Mae yna sawl ffordd o wneud cais am waith trwsio:

Anfon cais ar-lein

E-bost: ymholiadau@adra.co.uk
Ffôn: 0300 123 8084

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd aelod o staff yn cysylltu efo chi i ddewis dyddiad sy’n gyfleus i chi.

Yna, byddwn yn dod draw i wneud y gwaith.

Mae’n rhaid i oedolyn (16 neu drosodd) fod adref i ni allu gwneud y gwaith yn eich cartref.

  • Beth rydym yn ei drwsio

    Dyma restr o’r pethau rydym ni yn eu trwsio a faint o amser sydd gennym i drwsio:

    • Boeleri – rydym yn gwasanaethu boeleri bob blwyddyn
    • Boeleri – trwsio eich boeleri (1 diwrnod rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth; 4 diwrnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi)
    • Glanhau simdde (dwywaith y flwyddyn)
    • Ardaloedd cymunedol – golau, drysau, clo (1 mis)
    • Ardaloedd cymunedol – golau argyfwng (1 diwrnod)
    • Drysau – drysau allan, trwsio drysau a handlenni stiff (1 mis)
    • Drysau – drysau allan , gosod drws newydd (6 mis)
    • Draeniau – toiledau, sinc neu gawod wedi blocio (1 diwrnod)
    • Ffensys a giatiau – trwsio ffens neu giât (6 mis)
    • Lle tân a’r gosodiad o’i amgylch – brics (1 mis)
    • Lle tân a’r gosodiad o’i amgylch – lle tân trydan (6 mis)
    • Estyll llawr – trwsio twll mewn astell llawr (1 diwrnod)
    • Estyll llawr – ail osod (1 mis)
    • Gwydr – wedi cracio neu dorri (ei wneud yn ddiogel mewn 1 diwrnod, trwsio mewn 3 mis)
    • Gyli – dadflocio gyli (6 mis)
    • Dŵr poeth – trwsio boeler combi (1 diwrnod rhwng 1
    • Tachwedd – 30 Ebrill; 4 diwrnod rhwng 1 Mai – 31 Hydref)
    • Dŵr poeth – cawod drydan (1 mis)
    • Cegin – trwsio colfach a gosodiadau ar gypyrddau cegin (1 mis)
    • Cegin – cwpwrdd cegin neu wyneb gweithio newydd (3 mis)
    • Golau – golau stribed wedi malu, golau ystafell ymolchi wedi malu, golau tu allan wedi malu (1 mis)
    • Cloeon  – clo wedi malu (1 diwrnod)
    • Cloeon – addasu unrhyw golfach neu handlen stiff (1 mis)
    • Plastro – gwaith trwsio bychan (3/6 mis)
    • Plymio – tap wedi malu ac yn sownd a’r dŵr yn rhedeg yn gyson/ ddim yn rhedeg  (1 mis)
    • Plymio – dŵr yn gollwng neu beipen wedi byrstio ei wneud yn ddiogel – 1 diwrnod)
    • Plymio – dŵr yn gollwng neu’n gorlifo (1 mis)
    • Cynteddau – trwsio unrhyw broblemau (1 mis)
    • To – os yw eich to yn gollwng yna byddwn yn ceisio ei wneud yn ddiogel (1 diwrnod)
    • To – unrhyw waith trwsio ar ôl i’r to fod yn gollwng (3/6 mis)
    • Golau diogelwch – unrhyw olau mewn ardal gymunedol (1 diwrnod)
    • Golau diogelwch – unrhyw olau mewn ardal breswyl (3 diwrnod)
    • Cawod – trwsio unrhyw gawod rydyn ni wedi gosod (1 mis)
    • Larymau ac offer canfod mwg a charbon monocsid – os ydynt wedi torri (1 diwrnod)
    • Socedi – socedi sydd ddim yn ddiogel (1 diwrnod)
    • Socedi – socedi wedi malu (1 mis)
    • Erial teledu – trwsio unrhyw erial mewn ardal gymunedol (1 mis)
    • System awyru – trwsio unrhyw systemau awyru yn eich ystafell ymolchi neu gegin (3 mis)
    • Teils wal – trwsio unrhyw deil wal sydd wedi malu (3 mis)
    • Polyn lein ddillad – nid yw hyn yn cynnwys y lein ei hun (3 mis)
  • Beth yw eich cyfrifoldeb chi
  • Handiman

    Mae pawb angen ychydig o help ar brydiau. Gall ein Handiman eich helpu gyda gwaith trwsio bach o gwmpas eich cartref, bydd rhaid i chi brynu’r adnoddau.

    Cewch ofyn am wasanaeth yr Handiman os:

    • ydych dros 60 oed
    • ydych yn anabl

    Cysylltwch efo ni os ydych eisiau Handiman i’ch helpu yn eich cartref.

    Gwneud cais am wasanaeth Handiman

  • Damwain, difrod neu esgeulustod

    Byddwn yn trwsio pethau sydd wedi treulio a gwisgo yn eich cartref am ddim.

    Os oes angen gwaith trwsio oherwydd:

    • nad ydych wedi edrych ar ôl eich cartref
    • bod rhywun yn eich cartref wedi achosi’r difrod
    • bod plant wedi achos difrod
    • fod anifail anwes wedi achosi difrod

    Bydd rhaid i chi dalu am y gwaith trwsio.

    Byddwn yn dweud cyn cychwyn y gwaith os bydd gofyn i chi dalu am y gwaith.
    Byddwch yn cael amcan bris am y gwaith cyn i ni ddechrau’r gwaith.

    Yna, byddwch yn cael anfoneb ar ôl i ni orffen y gwaith. Bydd y swm yma yn dangos ar eich cyfrif tan y byddwch wedi ei dalu.

    Os yw’r difrod wedi ei achosi gan drosedd, fel bod rhywun wedi torri i mewn i’ch cartref, yna bydd angen i chi ddweud wrth yr Heddlu.

  • Gwaith Cynnal a chadw wedi ei drefnu o flaen llaw

    Byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn eich cartref yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn cyrraedd ein safonau.

    Mae hyn yn cynnwys:

    • gwasanaethu offer nwy a thanwydd solet bob blwyddyn
    • gwiriadau diogelwch trydanol bob pum mlynedd
    • addurno mannau cymunedol mewn fflatiau a Tai Cefnogol
    • cynnal a chadw lifftiau cymunedol, larymau tân a mwg a offer diogelwch tân
    • golau diogelwch
    • tynnu asbestos
    • gwiriadau diogelwch tân in adeiladau cymunedol
    • archwilio cyfleusterau cadw dŵr cymunedol
    • cynnal a cahdw mannau gwyrdd ac agored
    • canfodyddion mwg/ gwres/ CO2 yn cael eu profi bob blwyddyn