Talu rhent

Mae angen talu rhent o’r diwrnod mae eich tenantiaeth yn cychwyn.
Mae rhent yn cael ei godi bob dydd Llun.

Os nad yw hyn yn gyfleus, gallwn drefnu i chi dalu ar ddiwrnod sy’n fwy cyfleus i chi.

Cysylltwch â ni

Ffyrdd o dalu eich rhent

Mae sawl ffordd o dalu rhent. Mae ein staff ar gael i’ch helpu gyda’r ffordd orau i dalu eich rhent.

  • Debyd Uniongyrchol
    • Arian yn mynd allan o’ch banc ar ddiwrnod o’ch dewis chi
    • Ffordd hawdd o dalu eich rhent.
    • Dim angen gwneud dim ar ôl ei drefnu
    • Hawdd cadw trefn ar eich arian
    • Gallwch ganslo ar unrhyw adeg

    Byddwn yn cysylltu efo chi os fydd unrhyw newid i’ch rent.

    Cysylltwch â ni i drefnu Debyd Uniongyrchol

    Byddwn angen manylion eich cyfrif banc, rhif sortio a rhif y cyfrif.

  • Talu cylchol gyda cherdyn banc

    Ychydig yn wahanol i Debyd Uniongyrchol.

    • rhent yn cael ei dalu yn awtomatig ar ddyddiad o’ch dewis chi
    • os nad oes digon o arian yn eich cyfrif banc ni fyddwch yn talu ffi
    • dim angen i chi wneud dim ar ôl ei drefnu os nad yw manylion eich cerdyn banc yn newid

     

    Cysylltwch â ni i drefnu taliad

  • Swyddfa'r Post neu Paypoint

    Gallwch gael cerdyn talu Adra i dalu yn Swyddfa’r Post neu unrhyw siop sydd yn defnyddio Paypoint. Bydd logo Paypoint y tu allan i’r siop.

    • Mae llawer o lefydd Paypoint mewn siopau ac ar agor yn hwyr
    • Os ydych wedi colli eich cerdyn gallwch dalu yn y siop trwy ddefnyddio anfoneb, sydd ar gael trwy gysylltu â ni

     

    Cysylltwch â ni i gael cerdyn Adra

  • Talu dros y ffôn

    Ffoniwch ni ar 0300 123 8084 i dalu eich rhent gyda cerdyn banc.

    Nid ydym yn gallu cymryd taliad gyda cerdyn credyd.

  • Talu dros y we
    • Os oes gennych gerdyn Allpay neu rif cyfeirnod Allpay, mi fedrwch chi dalu ar-lein yma gan ddefnyddio eich cerdyn debyd.
    • Bydd angen cerdyn Allpay neu rhif taliad ar gyfer defnyddio dulliau talu Allpay.
    • Os ydych eisiau archebu Cerdyn Allpay, ffoniwch ni ar 0300 123 8084

     

    Gallwch dderbyn rhain drwy gysylltu â ni

    Yn anffodus, nid yw Allpay ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

     

  • Ap Allpay

    Gallwch dalu trwy ap ‘Allpay’ gyda ffôn ‘Apple’ neu ffôn ‘Android’.
    Byddwch angen cerdyn ‘Allpay’ a cherdyn banc.

    • Lawrlwythwch yr ap – am ddim
    • Wedi cofrestru gallwch dalu eich rhent heb fynediad i’r we
    • Mae’r ap yn gallu cofio taliadau a manylion banc felly dim angen rhoi rhain i fewn bob tro
    • Mae’r ap yn ddiogel ac ar gael trwy’r dydd, bob dydd