Eich Llais

Mae gwrando a gweithredu ar farn ein tenantiaid yn ganolog i’n gwaith yn Adra.

Mae’n ein helpu i wneud yn siŵr ein bod ni’n cwrdd â’u hanghenion, yn darparu cartrefi o safon a
gwasanaethau cwsmer gwych.

Drwy gyfranogiad tenantiaid, rydym wedi cael adborth a syniadau gwerthfawr sydd wedi ein helpu i ddylunio ein gwasanaethau a’u gwella. Pwy well i roi mewnwelediad i ni na’r rhai sy’n byw yn ein cartrefi a’n cymunedau ag sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Bydd ‘Eich Llais’ yn rhoi’r cyfle i ni ddatblygu ar y gwaith da yma a siapio sut rydym am weithio gyda chi dros y tair blynedd nesaf.

Eich LLais

Gair gan y Cadeirydd

“Fel Bwrdd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar ein tenantiaid a’r rôl hanfodol mae eu hadborth wedi ei chwarae yn natblygiad a llwyddiant Adra ers 2010.
Ym mis Ebrill 2022, lansiwyd ein Cynllun Corfforaethol newydd ac uchelgeisiol.

Mae’r Cynllun yn adlewyrchu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein hegwyddorion sylfaenol, a’r nodau allweddol yr ydym yn dymuno eu cyflawni erbyn 2025.
Yn y Cynllun, amglygir ein cefnogaeth barhaus i gefnogi cyswllt tenantiaid drwy ymrwymo i “deilwra ein gwasanaethau i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid a fydd wrth wraidd popeth” a hefyd “gwella sut rydym yn gwrando a gweithredu” i’n tenantiaid.
Mae Bwrdd Adra wedi ymrwymo’n llwyr i gyfranogiad tenantiaid. Credaf y bydd ‘Eich Llais yn gwneud yn siŵr y bydd barn tenantiaid yn parhau i gael ei glywed fel y gallwn gyflawni blaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol yn llwyddiannus. “

Hywel Eifion Jones –
Cadeirydd Bwrdd Adra

Gair gan denantiaid ar ein Bwrdd

‘Fel Tenantiaid ar Fwrdd Adra, rydym yn falch iawn o nodi lansiad strategaeth ‘Eich Llais’. Rydym wedi bod yn gweithio gyda tenantiaid ac aelodau eraill y Bwrdd i ddod i wybod sut byddech chi yn hoffi cymryd rhan gydag Adra a sut ydych am roi adborth i ni am ein gwasanaethau.

Rydym am gynllunio ein gweithgareddau fel ei bod yn llawer iawn haws i fwy o denantiaid gymryd rhan.

Mae cyfarfod tenantiaid yn eu cartrefi yn ystod Sesiynau Crwydro Stadau yn rhan fawr o’r cynlluniau ond bydd Adra hefyd yn ffonio cwsmeriaid, trefnu digwyddiadau galw mewn ac anfon holiaduron byr i chi eu llenwi adref. Bydd grwpiau ffocws yn cael eu cynnal i edrych yn fanylach ar wasanaethau penodol ac ar benderfyniadau mawr.

Fel aelodau Bwrdd, edrychwn ymlaen at glywed eich adborth a gwneud yn siwr ein bod yn gweithredu ar yr hyn rydych wedi ei ddweud wrthym’

Cyfranogiad Tenantiaid yng Nghymru

Mae tenantiaid yn ganolog i reoleiddio tai yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi disgwyliadau clir ar gymdeithasau tai i ddangos bod eu tenantiaid yn cymryd rhan i helpu siapio a dylanwadu ar wasanaethau a phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu model ar gyfer cyfranogiad tenantiaid– “Y Pethau Iawn”. Mae’r model yma yn
ceisio ysgogi meddwl am ba ddulliau y dylid eu defnyddio i gasglu adborth gan denantiaid ar gyfer amgylchiadau penodol.

Fel rhan o Eich Llais, byddwn yn dilyn model Y Pethau Iawn wrth ymgynghori a chysylltu gyda’n tenantiaid.

Sut ydym ni’n gwneud?

Mae Llywodraeth Cymru yn credu ein bod ni’n perfformio’n dda -gan sicrhau’r marc uchaf yn erbyn eu Safon Rheoleiddio. Mae rhan o’r asesiad hwnnw yn cynnwys y safon:

“Mae tenantiaid yn cael eu grymuso a’u cefnogi i ddylanwadu ar ddyluniad a darpariaeth
gwasanaethau”.

Rydych chi hefyd wedi dweud wrthym ein bod ni’n gwneud yn dda.
Rydym yn cymharu’n ffafriol gyda Chymdeithasau Tai eraill, gyda’r canlyniadau diweddaraf yn ein rhoi ni yn y 10% uchaf yng Nghymru pan mae hi’n dod i foddhad gyda chyfranogiad a chyswllt tenantiaid.

Graffeg eich Llais

Beth rydym am ei wneud?

Byddwn yn eich rhoi chi – ein tenantiaid, wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud, a gwneud yn siŵr:
• Bod y rhai sy’n rhoi eu barn yn gynrychioladol o’n tenantiaid
• Bod ein cyfleoedd i gymryd rhan yn amrywiol, cynhwysol ac ystyrlon
• Ein bod yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arno
• Bod gennych lais yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu rheoli
• Eich bod yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein prosesau gwneud penderfyniadau
• Ein bod yn rhoi adborth i chi ar sut rydym wedi ystyried eich barn a’r gwahaniaeth y mae
wedi ei wneud

Byddwn yn sicrhau diwylliant o gyfranogiad tenantiaid yn Adra er mwyn ein helpu i gyflawni’r themâu allweddol o fewn ein Cynllun Corfforaethol:

• Darparu profiad rhagorol i’r cwsmer
• Darparu Cartrefi o Ansawdd y gellir bod yn falch ohonynt
• Datgarboneiddio ein Cartrefi
• Cefnogi Pobl a Chymunedau i Ffynnu
• Cryfhau ein Busnes

Tabl o'r penawdau yn eich llais

Ymweld ag Ardaloedd

Cyfle i denantiaid gyfarfod Staff ac Aelodau Bwrdd yn eu cymunedau a chael gwybodaeth, rhannu eu barn ac adrodd am unrhyw broblemau/pryderon am eu heiddo/cymdogaeth.

Cymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr

Cael eu rhedeg gan breswylwyr lleola’u cefnogi gan Adra. Mae’r grwpiau yn trafod materion lleol, yn cymdeithasu ac yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.

 

Panel Cwsmeriaid

Mae aelodau’r panel yn rhannu eu barn ar bynciau gwahanol unwaith bob 3 mis drwy gwblhau holiadur byr ar-lein/drwy’r post.

Sgyrsiau Ardal

Cyfarfodydd anffurfiol yn cael eu cynnal yn ein cymunedau gan roi cyfle i denantiaid roi adborth i staff a dysgu am waith Adra a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Holiaduron Boddhad Tenantiaid

Mae tenantiaid yn cael eu dewis ar hap bob mis i ddarparu adborth ar wasanaethau y maent wedi eu cael yn ddiweddar gan Adra.

Ymgynghoriadau Ar-lein

Defnyddio technoleg fel Zoom, Facebook, y Wefan, SMS ayyb i gasglu adborth gan gwsmeriaid i helpu wella gwasanaethau.

Grwpiau Tasg a Gorffen

Yn cael eu creu i edrych ar feysydd gwaith penodol sydd o ddiddordeb iddynt. Fel arfer yn cyfarfod unwaith a’r darganfyddiadau ac
argymhellion yn cael eu defnyddio i wella’r gwasanaeth/maes gwaith dan sylw.

Digwyddiadau Cymunedol

Amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol fel diwrnodau hwyl, diwrnodau amgylcheddol a phrosiectau cymunedol sy’n cael eu
cynnal i ymgysylltu gyda thenantiaid yn eu cymunedau.

Cwestiwn y Mis

Bob mis byddwn yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol gyda’r cwestiwn yn cael ei ofyn wrth gysylltu gyda’n Tîm Gwasanaethau Cwsmer.

Cwynion a Chanmoliaeth

Defnyddio adborth sydd wedi ei dderbyn gan denantiaid – rhai cadarnhaol a negyddol, er mwyn gwella gwasanaethau a
phrofiad y tenant.

Adborth Aelodau Etholedig

Defnyddio adborth gan aelodau etholedig sy’n gweithredu ar ran tenantiaid i wella ein gwasanaethau a phrofiad y cwsmer.

Bwrdd Adra

Gwneud penderfyniadau busnes allweddol a gosod y blaenoriaethau a chyfeiriad strategol ar gyfer Adra. Mae aelodaeth y Bwrdd yn
amrywio rhwng 9 i 12 aelod llawn a hynny yn cynnwys 2 aelod tenant

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i bawb sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau
ymgynghori. Byddwn yn gwneud hyn dros e-bost, post a dros ein gwefan.

Eich Cefnogi

Bydd cefnogaeth ar gael i’r rhai sy’n dymuno cymryd rhan gyda ni, gan gynnwys:
• Hyfforddiant
• Cefnogaeth TG
• Help gyda threfniadau teithio
• Ad-dalu costau teithio
• Help gyda chostau gofal

Cynhwysiant

Ein hamcan yw sicrhau bod ein holl weithgareddau yn gynhwysol ac yn cyd fynd â’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’n Cynllun Iaith Gymraeg.