Cynllun Cartrefi Clyfar yn recriwtio

Rydym yn treialu cynllun cyffrous newydd yn fuan ac rydym yn chwilio am bobl i gymryd rhan.

Bydd ein cynllun Cartrefi Clyfar yn rhoi synhwyrau yn y cartref i fonitro amrywiaeth o bethau o symudiad o amgylch y cartref i dymheredd y gwres. Rydym yn gobeithio y bydd casglu data fel hyn yn galluogi pobl i fyw yn annibynnol y neu gartrefi yn hirach.

Dywedodd Haydn Maxwell o’n tîm Bro:

“Mae’r boblogaeth yn heneiddio yn flynyddol sydd yn golygu y bydd mwy a mwy ohonom yn cael ein heffeithio gan Ddementia neu ddryswch meddwl ar ryw bwynt, ac mae’n anodd ofnadwy. Rydym ni yn gobeithio y bydd y synhwyrau yma yn rhoi tawelwch meddwl i deulu neu ofalwyr eu bod yn ddiogel yn eu cartref.

Mae cynllun Cartrefi Clyfar yn chwilio am deuluoedd i gymryd rhan yn y treial.

Ewch draw i’n tudalen Cartrefi Clyfar ar ein Gwefan i gael mwy o wybodaeth a manylion sut i gymryd rhan.