Renting homes wales graphic by Welsh Government

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 – Eich Contract Meddiannaeth newydd

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gyfraith newydd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi dod i rym ers 1 Rhagfyr 2022. Mae’r newidiadau hyn wedi’u cynllunio gan Lywodraeth Cymru ers peth amser ac wedi cael eu craffu a’u cefnogi gan sefydliadau tenantiaid megis TPAS Cymru a Shelter Cymru. 

 Efallai eich bod wedi ein clywed neu ein gweld yn cyfathrebu amdano yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n cyflwyno llawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth a bydd yn berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat. Y diben yw symleiddio cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhent yng Nghymru a chynnig mwy o sicrwydd i denantiaid a landlordiaid. 

Dydi hyn ddim yn rhywbeth i boeni amdano, yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw darllen eich contract ac ymgyfarwyddo â’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau. 

Nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn gontract newydd, mae’n ddatganiad ysgrifenedig (copi ysgrifenedig) o delerau ac amodau presennol eich cytundeb tenantiaeth, sy’n ymgorffori ychwanegiadau a/neu newidiadau sy’n ofynnol gan y Ddeddf. Cadwch ef yn ddiogel fel y gallwch gyfeirio ato pan fydd angen. 

 Fel cwsmeriaid Adra byddwch yn derbyn datganiad ysgrifenedig o’ch contract meddiannaeth o fewn y chwe mis nesaf. 

 Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin: Cliciwch Yma  

Neu am wybodaeth manylach: Yma 

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i gael tabl sy’n darparu ‘rhestr wirio’ barod o’r pethau y mae’n rhaid i landlordiaid eu gwneud i gydymffurfio â chyfraith newydd a chyfraith bresennol, a’r amserlenni ar gyfer gwneud y pethau hynny: https://www.llyw.cymru/rhentu-cartrefi-rhestr-wirio-i-landlordiaid-thenantiaid-html