Ein 10 Addewid i hybu’r iaith Gymraeg a chyfrannu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Rydan ni wedi cyhoeddi 10 addewid i annog a hybu’r iaith Gymraeg yn y gweithle a’r gymuned.

Wrth lansio ein Siarter Iaith ar Fawrth y cyntaf ar ddydd Gŵyl Dewi Sant rydan ni’n  cynnwys 10 addewid sy’n ychwanegol i’n Cynllun Iaith Gymraeg, er mwyn hybu ac annog ein cwsmeriaid, staff a’n partneriaid i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r Siarter yn nodi beth fyddwn yn ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle mwy amlycach fyth o fewn gwasanaethau ein cwmni. Cymraeg yw ein iaith gwaith ac mae’r 10 addewid yma yn y Siarter Iaith yn amlygu ein ymrwymiad a’n uchelgais yn y maes allweddol yma.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Dirprwy Brif Weithredwr:

“Mae llawer iawn o waith da wedi digwydd i sicrhau ein bod yn hyrwyddo’r Gymraeg o fewn Adra a rydym eisiau adeiladu ar y gwaith yma er mwyn sicrhau bod Adra yn flaengar wrth gynyddu’r defnydd y Gymraeg o fewn y gweithle ac o fewn cymunedau lleol. Rydym yn  lansio’r addewidion yma i  arddangos ymrwymiad clir i’r iaith Gymraeg.

“Rydym eisoes wedi bod yn rhagweithiol wrth hyfforddi ac annog staff di-Gymraeg i ddysgu’r iaith a sicrhau bod yr egwyddor ddwyieithog wedi treiddio i bob gwasanaeth a ddarparwn.

“Ond, mae mwy y gallwn wneud. A dyma pam ydan ni wedi sefydlu Deg Addewid Adra i’r Iaith Gymraeg  – sef ein Siarter Iaith newydd.

“Rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid sydd yn rhannu yr un gwerthoedd a ni, yn cynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Awdurdodau Lleol, Mentrau Iaith a llawer mwy, er mwyn cefnogi  Llywodraeth Cymru yn eu hymgyrch i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones:

“Rydym yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad ynglŷn â phryd y bydd safonau’r Gymraeg yn cael eu gosod ar gymdeithasau tai. Yn y cyfamser, rydym yn annog unrhyw gymdeithas dai neu fusnes preifat i weithio efo ni a rhannu arfer da er mwyn hybu ac annog y defnydd o’r Gymraeg”

“Rydym hefyd yn awyddus i fanteisio ar ein rôl fel darparwr tai er mwyn cryfhau’r Gymraeg mewn ardaleodd a chymunedau lle nad yw’r iaith yn iaith gymdeithasol.

“Byddwn fel cwmni yn cydweithio yn lawer agosach efo cyrff economaidd hefyd er mwyn sicrhau cyfleon i bobl lleol, sydd mor bwysig o ran cynnal a chefnogi’r Gymraeg.”

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:

“Rydw i’n falch o weld cymdeithas dai fel Adra yn dangos ymrwymiad i’r Gymraeg wrth lansio eu Siarter Iaith a’u bod yn ymwybodol o’r manteision o gynnig gwasanaethau yn Gymraeg i’w cynulleidfaoedd. Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad Adra i gydweithio a rhannu arfer da efo cyrff eraill yn y sector.”

Mae Adra yn bwriadu adeiladu 1,200 o dai fforddiadwy yng ngogledd Cymru i gyrraedd targedau heriol Llywodraeth Cymru i ddatblygu mwy o dai fforddiadwy i bobl leol a chyfarch yr angen tai lleol. O ganlyniad, mae Adra bellach yn adeiladu tai ar draws gogledd Cymru.

Mae’r landlordiaid cymdeithasol yn bwriadu defnyddio eu dylanwad a’u profiad o hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd hyn wrth weithio â phartneriaid. Maent yn awyddus i ddenu eraill ar y daith i ddysgu’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd arloesol a chymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymunedau.

Am fwy o wybodaeth am Adra a’r Iaith Gymraeg ac am gopi o’r Siarter Iaith, ewch i: https://www.adra.co.uk/siarter-iaith/

Am fwy o wybodaeth am Siarter Iaith Adra, cysylltwch â’n cyfieithydd Einir Williams, einir.williams@adra.co.uk